Rhanbarth yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Corn Affrica sy'n cynnwys gwledydd Eritrea, Ethiopia Jibwti,, a Somalia.[1] Mewn ystyr ddaearyddol, ceir diffiniad cul sy'n gyfystyr â Phenrhyn Somalia, hynny yw Somalia a dwyrain Ethiopia yn unig. Hwn yw pentir mwyaf dwyreiniol y cyfandir. Cynhwysir  rhannau o Genia, Swdan, De Swdan ac Wganda gan ddiffiniadau ehangach sy'n cysylltu hanesion y bobloedd a diwylliannau hyn.[2] Rhennir Gwlff Aden oddi ar Gefnfor India gan Gorn Affrica, a lleolir gorynys Arabia ar ochr draw'r culfor. Mae'r penrhyn yn ymwthio allan tua 100 km i Fôr Arabia, ac mae'n gorwedd ar hyd ochr ddeheuol Gwlff Aden. Y Sahel sydd i ogledd y Corn.

Corn Affrica
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth115,000,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladEthiopia, Somalia, Eritrea, Jibwti Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,000,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Coch, Môr Arabia, Gwlff Aden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.5°N 48°E Edit this on Wikidata
Map
Gwledydd Corn Affrica

Daearyddiaeth a chymdeithas hynod o amrywiol sydd yng Nghorn Affrica, gan gynnwys Ucheldiroedd Ethiopia, diffeithwch yr Ogaden, ac arfordiroedd Eritrea a Somalia, ac yn gartref i nifer fawr o bobloedd gan gynnwys yr Amhara, y Tigray, yr Oromo, a'r Somaliaid. Mae'r mwyafrif ohonynt yn siarad ieithoedd Affro-Asiaidd ac yn Fwslimiaid neu'n Gristnogion. O ganlyniad i leoliad yr ardal, bu hanes hir o gysylltiadau ag Arabia, yr Aifft, a De Orllewin Asia.

Daearyddiaeth a hinsawdd

golygu
 
Corn Affrica fel y'i gwelir o Wennol Ofod NASA yn 1993. Mae'r lliwiau oren a melyn yn y ddelwedd hon yn dynodi hinsawdd gras a lletgras.

Mae Corn Affrica yn ardal sych sydd bron yn gytbell o'r cyhydedd a Throfan Cancr. Ystyrir Socotra, ynys fach ger arfordir Somalia sydd yng Nghefnfor India, fel rhan o Affrica. Mae'n 3600 km². Mae'n diriogaeth o Iemen, gwlad mwyaf deheuol Arabia.

Ffawna a fflora

golygu
 
Sebra Grevy (Equus grevyi).

Ymhlith anifeiliaid Corn Affrica mae'r babŵn, y sebra, yr amodeil (neu gerbil Somalïaidd), y baedd dafadennog, yr asyn gwyllt Somalïaidd, a'r corgerbil Somalïaidd. Mae'r dic-dic arian, y dibatag (neu gafrewig Clarke), gafrewig Speke, a'r beira i gyd dan fygythiad.

Mae Corn Affrica yn dioddef o orbori ac dim ond rhyw 5% o'i gynefin gwreiddiol sy'n aros. Bygythiad mawr arall ar Socotra yw datblygiad isadeiledd, sydd yn rhoi natur unigryw yr ynys honno mewn perygl.

Hanes modern

golygu

Mae Corn Affrica yn rhanbarth sydd yn dioddef o newyn, rhyfel, sychder a thrychinebau naturiol yn aml. Rhwng 1982 a 1992 bu farw tua dwy filiwn o bobl fel canlyniad o ryfel a newyn. Yn ddiweddar mae argyfwng bwyd wedi difrodi'r rhanbarth.

Ers 2002 mae'r ardal wedi bod o dan sylw'r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, ac un ar ddeg o wledydd Affricanaidd ynghylch y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.

Economi

golygu

Mae gwledydd y rhanbarth yn dibynnu ar rai allforion allweddol:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Michael Hodd, East Africa Handbook 7fed argraffiad, (Passport Books, 2002), t. 21
  2. (Saesneg) Horn of Africa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2018.