Aigrette
Tusw o blu'r crëyr copog a wisgir ar benwisg, gan amlaf fel rhan o wisg filwrol, yw aigrette. Yn hanesyddol mae'n ffurfio rhan o bluen y swyddog hwsâr.[1] Defnyddir y gair aigrette hefyd i ddisgrifio addurniadau tebyg a wneir o gemau.
Y Cyrnol Alain Puligny yn arwain catrawd marchfilwyr y Garde Républicaine ar Ddiwrnod Bastille 2012 ym Mharis. Mae'r aigrette ar ei helmed yn arwydd traddodiadol o'i awdurdod.
Yr Ymerawdwr Puyi yn ei wisg filwrol. Gweler aigrette mawr ar ei het â phig sy'n eistedd ar y ford.
Y Llyngesydd Horatio Nelson yn gwisgo aigrette diemwnt ar ei het. Roedd yr aigrette gemog, neu'r chelengk, yn anrhydedd Otomanaidd, a rhoddwyd yr un hwn i Nelson gan y Swltan Selim III wedi iddo ennill Brwydr y Nîl.[2]
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | hairstyle accessory, tlysau, Pluen (gwisg filwrol) ![]() |
![]() |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Carman, W. Y. A Dictionary of Military Uniform (Llundain, B.T. Batsford, 1977), t. 12.
- ↑ (Saesneg) From Nelson's Çelenk to the Tradition of Ottoman Orders and Decorations. Ottoman Orders and Decorations as Forms of Honor. Canolfan Archifau ac Ymchwil y Banc Otomanaidd. Adalwyd ar 24 Hydref 2013.