Hwsâr
Marchfilwr ysgafn a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yn Ewrop i sgowtio yw hwsâr[1] neu husâr.[2]
Y hwsariaid cyntaf oedd corffluoedd ceffylau-ysgafn Hwngari yn y 15g. Efelychwyd y hwsâr Hwngaraidd, a'i wisg liwgar, gan fyddinoedd eraill ar draws Ewrop. Roedd y wisg yn cynnwys bysbi, siaced a blethir yn drwm, a philis neu siaced ddolman, sef cot lac a wisgir ar yr ysgwydd chwith.[3]
Addasodd nifer o gatrodau hwsâr y Fyddin Brydeinig yn ddragwniaid ysgeifn yn y 19g.[3] Mae rhai catrodau arfogedig yn parháu i gadw'r enw hwsâr.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [hussar].
- ↑ Husâr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) hussar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
- ↑ Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 122.