Ail Gyngor y Fatican

Cyngor eglwysig gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig oedd Ail Gyngor Eciwmenaidd y Fatican (Lladin: Concilium Oecumenicum Vaticanum Secundum) a geisiodd ymdrin â pherthynas yr Eglwys gyda'r byd modern.[1][2] Hwn oedd cyngor cyntaf ar hugain yr Eglwys Gatholig a'r ail i'w gynnal ym Masilica Sant Pedr yn Ninas y Fatican ar ôl Cyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Agorodd y cyngor, drwy Esgobaeth y Pab, dan y Pab Ioan XXIII ar 11 Hydref 1962 a daeth i ben dan y Pab Pawl VI ar Ŵyl yr Ymddwyn Difrycheulyd ar 8 Rhagfyr 1965.

Ail Gyngor y Fatican
Enghraifft o'r canlynolsynod Edit this on Wikidata
Dechreuwyd11 Hydref 1962 Edit this on Wikidata
Daeth i ben8 Rhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCyngor Cyntaf y Fatican Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Pab Pawl VI yn ystod Ail Gyngor y Fatican.

O ganlyniad i'r cyngor bu nifer o newidiadau yn athrawiaeth ac arferion yr Eglwys, gan gynnwys adnewyddu cysyniad y bywyd cysegredig, ymdrechion eciwmenaidd, a'r galwad cyffredinol i sancteiddrwyd.[3] Un o brif negeseuon y cyngor oedd Rhyfeddod y Pasg a'i bwysigrwydd i fywyd Cristnogion a'r flwyddyn Gristnogol.[4] Newidiodd y mwyafrif o eglwysi i'r iaith frodorol yn hytrach na Lladin yn yr Offeren, a gwelwyd llai o dlysau gan y wisg glerigol. Adolygwyd gweddïau'r cymun a'r calendr litwrgïaidd, a rhoddwyd yr hawl i weinyddwr yr Offeren wynebu'r gynulleidfa neu ochr ddwyreiniol yr eglwys. Cyflwynwyd nifer o newidiadau modern yng ngherddoriaeth y litwrgi a chelfyddyd Gatholig. Mae nifer o'r newidiadau hyn yn ddadleuol gan Gatholigion hyd heddiw.

Ymhlith y rhai a gyfranodd at sesiwn agoriadol y cyngor roedd pedwar dyn a ddaeth yn bab: y Cardinal Giovanni Battista Montini, sef Pawl VI; yr Esgob Albino Luciani, sef Ioan Pawl I; yr Esgob Karol Wojtyła, sef Ioan Pawl II; a'r ymgynghorwr diwinyddol Joseph Ratzinger, sef Bened XVI.

Cyfeiriadau golygu

  1. Pope Paul VI (21 Tachwedd 1964). "Lumen gentium". The Holy See. Cyrchwyd 7 June 2016.
  2. Gaudium et spes [Pastoral Constitution on the Church in the Modern World], II Vatican council, Rome, IT: Vatican, http://www.vatican.va/archive/hist_councils/ii_vatican_council/documents/vat-ii_const_19651207_gaudium-et-spes_en.html.
  3. Motu Proprio Sanctitas clarior
  4. http://w2.vatican.va/content/benedict-xvi/en/speeches/2013/february/documents/hf_ben-xvi_spe_20130214_clero-roma.html