Cyngor Cyntaf y Fatican

Cyngor eglwysig gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig oedd Cyngor Cyntaf y Fatican (Lladin: Concilium Vaticanum Primum) a gafodd ei alw ynghyd ar 29 Mehefin 1868 gan y Pab Piws IX, ar ôl cyfnod o gynllunio a pharatoi ers 6 Rhagfyr 1864.[1] Agorodd y cyngor ar 8 Rhagfyr 1869 a daeth i ben ar 20 Hydref 1870.[1] Hwn oedd ugeinfed cyngor yr Eglwys Gatholig,[2] y cyngor cyntaf ers Cyngor Trent (1545–63) tri chan mlynedd ynghynt, a'r unig gyngor eglwysig i'w gynnal ym Masilica Sant Pedr yn Ninas y Fatican nes Ail Gyngor y Fatican (1962–5).

Cyngor Cyntaf y Fatican
Enghraifft o'r canlynolsynod Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1869 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd8 Rhagfyr 1869 Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Hydref 1870 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCyngor Trent Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAil Gyngor y Fatican Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad o gynulliad Cyngor Cyntaf y Fatican (tua 1870).

Cafodd y cyngor ei drefnu er mwyn ymdrin â'r problemau a dadleuon crefyddol o ganlyniad i ddylanwad rhesymoliaeth, rhyddfrydiaeth, a materoliaeth.[2] Yn ogystal, ei bwrpas oedd i ddiffinio'r athrawiaeth Catholig parthed Eglwys Crist.[3] Trafododd y cynulliad a chytunodd ar ddau gyfansoddiad: Cyfansoddiad Dogmataidd y Ffydd Gatholig, a Chyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist, sy'n ymwneud â goruchafiaeth ac anffaeledigrwydd y Pab.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Vatican Council" yn y Catholic Encyclopedia (1913). Adalwyd ar Wicidestun Saesneg ar 1 Ionawr 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) First Vatican Council. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Dogfennau Cyngor Cyntaf y Fatican ar wefan EWTN. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.