Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori
Rhyfel cartref byr a ymladdwyd rhwng lluoedd arfog y Traeth Ifori, a oedd yn ffyddlon i'r Arlywydd Laurent Gbagbo, a chefnogwyr Alassane Ouattara oedd Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori, a ddilynodd etholiad arlywyddol dadleuol yn Nhachwedd 2010. Hawliodd y ddau ymgeisydd fuddugoliaeth yn yr etholiad, a chyhuddwyd Gbagbo o dwyll i geisio sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau. Er i sylwebwyr rhyngwladol ddatgan taw Ouattara oedd yr enillydd, gwrthododd Gbagbo ildio'i rym, ac aethant ill dau ati i dyngu'r llw arlywyddol a ffurfio llywodraethau ar wahân. Wedi pedwar mis o ymladd ysbeidiol, ffrwydrodd yr argyfwng yn rhyfel ar raddfa eang yn niwedd Mawrth 2011 wedi i Gbagbo orchymyn i'r fyddin gwastrodi'r gwrthdystiadau yn ei erbyn. Cydnabuwyd Ouattara yn enillydd cyfreithlon yr etholiad gan y Cenhedloedd Unedig, a chondemniwyd ymdrechion Gbagbo i aros yn yr arlywyddiaeth. Dechreuodd y Forces Nouvelles (FNCI), a gefnogodd Ouattara, gipio rhannau o'r wlad, a lansiwyd ymgyrch filwrol yn Ebrill, gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig a Ffrainc, i ddymchwel Gbagbo. Wedi deuddeng niwrnod o frwydro yn Abidjan, dygwyd cyrch ar breswylfa'r arlywydd, a chafodd Gbagbo ei arestio, a daeth Ouattara felly i rym. Yn ystod y rhyfel, cafodd rhyw 3000 o bobl eu lladd a 500,000 eu dadleoli.[1]
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref |
---|---|
Dechreuwyd | 28 Tachwedd 2010 |
Daeth i ben | 11 Ebrill 2011 |
Lleoliad | Y Traeth Ifori |
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "ICC to investigate Ivory Coast post-election violence", BBC (3 Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Chwefror 2024.