Pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol
Pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a'u cymunedau ac yn dal i fyw yn eu gwlad eu hunain yw pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (IDPau).[1] Gelwir pobl sydd wedi gorfod gadael eu gwlad yn ffoaduriaid. Mae gorfodi unigolion i adael eu cartrefi trwy erledigaeth ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, neu ddaliadau gwleidyddol yn groes i'r gyfraith ddyngarol ryngwladol.[2]