Seiclwr tandem paralympaidd yw Aileen McGlynn MBE (ganwyd 22 Mehefin 1973, Glasgow[1]). Mae Ellen Hunter yn beilot iddi ar y tandem. Ganwyd McGlynna golwg rhannol, ymunodd a glwb seiclo yn 14 oed ond nid oedd eisiau dweud wrth ei chyd-aelodau clwb am ei anabledd ar y cychwyn. Fe ddyfalodd y clwb hyn yn y diwedd ac wedi bod yn cynnig cefnogaeth mawr iddi. Mae hi hefyd yn noddwr cymdeithas o'r enw Crank It Up sy'n ceisio cyflenwi'r cyfle i bawb o bob gallu i seiclo.[1]

Aileen McGlynn
Aileen McGlynn
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnAileen McGlynn
Dyddiad geni (1973-06-22) 22 Mehefin 1973 (50 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTandem
RôlStoker
Math seiclwrSbrint
Tîm(au) Amatur
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Mai 2008

Cyn iddi ddod yn seiclwr llawn amser, roedd McGlynn yn actwari hyfforddedig gyda gradd mewn mathemateg, ystadegau a gwyddoniaeth rheoli.

Torrodd McGlynn a Hunter record y byd ar gyfer 200m tandem hedfan, merched, yn Ebrill 2004.

Yn Pencampwriaethau Trac y Byd, IPC 2006 yn Aigle, Swistir, fe enillodd y par fedal aur yn y Kilo Tamdem (VI), gan osod record newydd o 1:10.795 yn y broses ac ennill Crys Enfys, roeddent yn 17fed ymysg 33 o ddynion.

Hyfforddir McGlynn a Hunter gan Barney Storey, torront record y byd unwaith eto ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI ym Manceinion, gyda amser o 1:10.381, er hyn ni llwyddasont i ennill le ar y podiwm.[2]

Palmarès golygu

2004
1af Kilo Tandem Merched (B 1-3), Gemau Paralympaidd yr Haf 2004
2il Sbrint Tandem Merched (B 1-3), Gemau Paralympaidd yr Haf 2004
2il Omnium Anabledd, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2005
1st Kilo Tandem, Cwpan y Byd Paralympaidd VISA
1st Sbrint Tandem, Cwpan y Byd Paralympaidd VISA
1st Kilo, Pencampwriaethau Ewrop
1st Kilo, Pencampwriaethau Agored Ewrop
1st Omnium Anabledd, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2006
1st Sbrint Tandem, Cwpan y Byd Paralympaidd VISA (B/VI merched)
2007
1st Sbrint Tandem, Cwpan y Byd Paralympaidd VISA (B/VI merched)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Patrons - Aileen McGlynn MBE. Crank It Up: Cycling for All.
  2.  Storey claims record-breaking win. BBC Sport (27 March 2008).