Aisling Bea
Mae Aisling O'Sullivan a adnabyddir yn broffesiynol fel Aisling Bea (ganed 16 Mawrth 1984)[1][2] yn actores, comedïwraig ac ysgrifenwraig o Iwerddon.[3][4] Fe'i hadnabyddir am ei hymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi megis QI a The Big Fat Quiz of Everything. Ers 2016, mae'n gapten tîm ar 8 Out of 10 Cats.
Aisling Bea | |
---|---|
Ffugenw | Aisling Bea |
Ganwyd | Aisling Cliodhnadh O'Sullivan 16 Mawrth 1984 Swydd Kildare |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor ffilm, sgriptiwr |
Perthnasau | Mícheál Ó Súilleabháin, Siobhán Ní Shúilleabháin |
Gwobr/au | So You Think You're Funny |
Gwefan | https://www.aislingbea.com/ |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Bea yn Swydd Kildare, Iwerddon, i Brian O'Sullivan, cyn joci proffesiynol,[1] a Helen Moloney. Mae ganddi chwaer o'r enw Sinead.[5] Tad-cu Bea yw'r nofelydd a bardd Gwyddeleg Mícheál Ó Súilleabháin. Mynychodd Academi Gerdd a'r Celfyddydau Dramatig Llundain (LAMDA) ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg ac Athroniaeth o Goleg y Drindod, Dulyn.[4][6]
Gyrfa
golyguYn 2012, curodd Bea wyth comedïwr arall i ennill gwobr So You Think You're Funny Gilded Balloon yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin 2012. Hi yw dim ond yr ail ferch i ennill y wobr ers y sefydlwyd 25 mlynedd yn ôl.[7] Yn 2013, enwebwyd Bea ar gyfer gwobr y Gomedïwraig Newydd Orau yng Ngwobrau Comedi Caeredin Foster's ar gyfer ei sioe C'est La Bea.[8]
Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi, gan gynnwys 8 Out of 10 Cats, Never Mind the Buzzcocks, Celebrity Squares, Would I Lie to You?, QI, A League of Their Own, Duck Quacks Don't Echo, Room 101, Insert Name Here, The Big Fat Quiz of Everything a The Jonathan Ross Show. Mae hefyd wedi ymddangos yn perfformio comedi ar ei sefyll ar Russell Howard's Good News Extra, Channel 4's Comedy Gala a Live at the Apollo.
Bywyd personol
golyguDaw enw proffesiynol Bea o'i thad a fu farw pan yr oedd yn blentyn.[1] Canfu tra'n astudio yn yr ysgol ddrama bod actores arall o'r un enw yn gweithio yn y diwydiant, felly penderfynodd ar yr enw Aisling Bea.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Fitzpatrick, Richard (18 Gorffennaf 2014). "Funny woman, Aisling Bea, is of good stock". Irish Examiner. Cyrchwyd 18 Awst 2015.
- ↑ "Aisling Bea on Instagram: "Wow. I feel like a turd."". 16 Mawrth 2016. Cyrchwyd 6 Awst 2016.
- ↑ "Five Essentials: Actor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-13. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2012.
- ↑ 4.0 4.1 "Aisling Bea Official Site". AislingBea.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-16. Cyrchwyd 15 Ionawr 2014.
- ↑ 5.0 5.1 Jones, Alice (12 August 2015). "Aisling Bea interview: The prize-winning comedian with the CV of a veteran on bringing her second stand-up show to the Fringe". The Independent. Cyrchwyd 18 August 2015.
- ↑ Jarlath Regan (19 Medi 2015). "Aisling Bea". An Irishman Abroad (Podleiad) (arg. 105). SoundCloud. Cyrchwyd 2015-09-22.
- ↑ "Aisling Bea wins So You Think You're Funny". BBC News. 24 August 2012. Cyrchwyd 24 August 2012.
- ↑ Duffy, Claire. "Aisling Bea is nominated for Edinburgh Fringe Best Newcomer Award". Entertainment.ie. Cyrchwyd 15 January 2014.