Never Mind the Buzzcocks

Sioe deledu gêm banel comedi yr ymerodraeth Brydeinig

Rhaglen deledu ar ffurf gêm banel gomig gyda'r thema cerddoriaeth boblogaidd a roc yw Never Mind the Buzzcocks, a gynhyrchir gan talkbackTHAMES ar gyfer BBC Two. Daw'r enw o gyfuniad o'r albwm Never Mind the Bollocks gan Sex Pistols a'r band Buzzcocks. Dechreuodd y rhaglen yn 1996 gyda Mark Lamarr yn ei chyflwyno, a daeth Simon Amstell yn gyflwynydd yn 2006. Ers dechrau'r sioe mae Phill Jupitus wedi bod yn gapten un o'r timau; o 1996 i 2002 Sean Hughes oedd capten y tîm arall, Bill Bailey o 2002 i 2008, ac yna capteiniaid gwadd wedi i Bailey adael.

Never Mind the Buzzcocks

Logo'r sioe
Genre Gêm banel gomedi
Serennu Mark Lamarr (1996–2005)
Simon Amstell(2006–2008)
Rhod Gilbert(2014–)
Phill Jupitus(Ers 1996)
Sean Hughes(1996–2002)
Bill Bailey(2002–2008)
Noel Fielding(2007)
Gwestai fel capteiniaid (2008)
Gwlad/gwladwriaeth Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 22
Nifer penodau 202
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.30 munud (1996 - presennol)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Two
Darllediad gwreiddiol 12 Tachwedd, 1996 – Presennol
Dolenni allanol
[Never Mind the Buzzcocks Gwefan swyddogol]

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato