Akimi Yoshida
Awdures ac artist o Japan yw Akimi Yoshida (吉田 秋生 Yoshida Akimi; ganwyd 12 Awst 1956) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd a darlunydd manga.
Akimi Yoshida | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1956 Tokyo |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mangaka, llenor, darlunydd |
Adnabyddus am | California Story, Kisshō Tennyo, Sakura no Sono, Banana Fish, Cusan Cariadon, Yasha, Eve no Nemuri, Our Little Sister, Kawa yori mo nagaku yuruyaka ni |
- Yn yr enw Japaneaidd hwn, Yoshida yw'r enw teuluol.
Fe'i ganed yn Tokyo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Celf Musashino a Tokyo.[1][2][3] Gwnaeth ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf ym 1977 yng nghylchgrawn *neu gomic) Bessatsu Shōjo gyda gwaith o'r enw Chotto Fushigi na Geshukunin ('Cymydog Ychydig yn Rhyfedd').[4][5]
Mae Yoshida yn fwyaf adnabyddus am y gyfres drosedd shōjo バナナフィッシュ ('Y Sgodyn Banana') a addaswyd yn anime a gynhyrchwyd gan MAPPA yn 2018.[6]
Anrhydeddau
golyguMae hi wedi derbyn Gwobr Shogakukan Manga deirgwaith: am Kisshō Tennyo yn 1983, Yasha yn 2001 yng nghategori Shōjo ac am Ddyddiadur Umimachi yn 2015 yn y categori Cyffredinol.[7][8]
Yn 2007, gwobrwywyd hi gyda Gwobr am Waith Ardderchog mewn manga yn yr 11eg Gwyl Gelf Japan, a hynny am Ddyddiadur Umimachi, a addaswyd yn ddiweddarach yn ffilm nodwedd o'r enw Our Little Sister. Yn 2013, derbyniodd y 6ed Gwobr Manga Taishō, eto am Ddyddiadur Umimachi.[9]
Gweithiau
golygu- Chotto Fushigi na Geshukunin (ちょっと不思議な下宿人), 1977
- California Monogatari (カリフォルニア物語), 1978–1981
- Kawa yori mo nagaku yuruyaka ni (河よりも長くゆるやかに), 1983
- Kisshō Tennyo (吉祥天女), 1983–1984
- Sakura no Sono (櫻の園), 1985–1986
- Banana Fish (バナナフィッシュ), 1985–1994
- Lovers' Kiss (ラヴァーズ・キス), 1995–1996
- Yasha (YASHA-夜叉-), 1996–2002
- Eve no Nemuri (イヴの眠り), 2003–2005
- Umimachi Diary (海街 diary), 2006–2018
- Utagawa Hyakkei (詩歌川百景), 2019–presennol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Akimi Yoshida". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Akimi Yoshida". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "コミックナタリー - 吉田秋生のプロフィール". Comic Natalie (yn Japanese). Cyrchwyd 3 Mawrth 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "The Official Website for Banana Fish". VIZ Media. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.
- ↑ Ressler, Karen (22 Chwefror 2018). "Banana Fish Anime Reveals Cast, More Staff, 1st Promo Video, Modern-Day Setting". Anime News Network.
- ↑ 小学館漫画賞: 歴代受賞者 (yn Japanese). Shogakukan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2007. Cyrchwyd 19 Awst 2007. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ Loo, Egan. "Haikyu!!, My Love Story!!, Sunny Win Shogakukan Manga Awards". Anime News Network. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.
- ↑ Loo, Egan. "Akimi Yoshida's Umimachi Diary Wins 6th Manga Taisho Award". Anime News Network. Cyrchwyd 10 Mawrth 2019.