Anime
Talfyriad Japaneg o'r gair Saesneg "animation" ydy anime (Japaneg: アニメ) [anime] (gwrando) ac mae'n cyfeirio'n benodol at animeiddiadau wedi'u cynhyrchu yn Japan.[1]
Delwedd:Wikipe-tan in Different Anime Styles.png, Anime DVDs.JPG | |
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm, animation style |
---|---|
Math | gwaith clyweld |
Rhan o | anime and manga |
Yn cynnwys | ffilm anime, anime television program |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n deillio yn ôl i 1917,[2] a daeth yn ffasiynol iawn yn Japan ers hynny. Yn yr 1980au daeth yn ffasiynol drwy'r byd. Mae'n cael ei ddarlledu ar deledu, fideo, DVD a hyd yn oed yn y theatr.
Ceir dau fath: cartwnau wedi'u gwneud gyda llaw a rhai wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur.
Un esiampl o anime yw'r rhaglen Siapaneg "Sailor Moon". Mae'n sôn am bum merch sy'n stopio'r 'Negaverse' drwg rhag cymryd drosodd Tokyo.
Mae'r gair "Anime" yn tarddu o'r dywediad Ffrangeg dessin animé.[3]
Mae'r diwydiant anime yn cynnwys dros 430 o stiwdios, llawer yn enwau mawr: Studio Ghibli, Gainax a Toei Animation. Dim ond ychydig o'r farchnad domestig sydd ganddyn nhw ond talp enfawr o'r diwydiant DVD. Mae anime wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y deng mlynedd diwaetha. Mae anime Japan wedi cael ei gopio gan nifer o wledydd eraill.
Diffiniad
golyguMath o gelf ydy Anime, yn enwedig mewn animeiddiadau, ac mae'n cynnwys yr holl genres y sinema, ond mae o'n cael ei gam-alw yn genre ei hun.[4]:7 Yn Japan caiff y gair ei ddefnyddio am bob math o animeiddio drwy'r byd.[5] Mae geiriaduron Saesneg yn diffinio anime fel "animeiddiad o Japan" neu "math o animeiddio a sefydlwyd yn Japan".[6][7]
Mathau
golyguMae llawer o anime wedi'i seilio ar fanga; dyma'r gwahanol fathau:
- Kodomo manga: Manga i blant
- Shōnen manga: i fechgyn 10 oed a hyn
- Shōjo manga: Manga i ferched sy'n 10-16 oed
- Seinen manga: Manga i ddynion 18 a hyn
- Josei manga: Manga i ferched 18 a hyn
Hanes
golyguCychwynodd anime ar ddechrau'r 20g, pan grëodd cyfarwyddwyr o Japan nifer o animeiddiadau, gyda nifer o wledydd eraill yn dilyn: Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a'r Unol Daleithiau America.[8] Y darn cyntaf i gael ei greu oedd yn 1917 – clip dau funud yn dangos samwrai yn ymarfer ei gleddyf ar ei darget.[9][10] Enw rhai o'r arlunwyr cyntaf ydy: Shimokawa Oten, Jun'ichi Kouchi, a Seitarō Kitayama.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ anime - Diffiniad Saesneg allan o Merriam-Webster Online Dictionary
- ↑ "Adalwyd 31 Rhagfyr 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-17. Cyrchwyd 2008-04-17.
- ↑ "Etymology Dictionary Reference: Anime". Etymonline. Cyrchwyd 2007-09-13.
- ↑ Poitras, Gilles (2000). Anime Essentials: Every Thing a Fan Needs to Know. Stone Bridge Press. tt. 7–115. ISBN 978-1-880656-53-2.
- ↑ "Tezuka: The Marvel of Manga - Education Kit" (PDF). Art Gallery New South Wales. 2007. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2007-08-30. Cyrchwyd October 28, 2007.
- ↑ "Anime Dictionary Definition". Dictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-11-02. Cyrchwyd October 9, 2006. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Merriam-Webster:anime". Merriam-Webster. Cyrchwyd November 18, 2010.
- ↑ Schodt, Frederik L. (Reprint edition (Awst 18, 1997)). Manga! Manga!: The World of Japanese Comics. Tokyo, Japan: Kodansha International. ISBN 0-87011-752-1. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Japan’s oldest animation films". ImprintTALK. 2008-03-31. http://imprinttalk.com/?p=1557. Adalwyd 2012-09-27.
- ↑ "Historic 91-year-old anime discovered in Osaka". HDR Japan. 2008-03-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-02. Cyrchwyd 2008-05-12.
- ↑ Yamaguchi, Katsunori (1977). Nihon animēshon eigashi. Yūbunsha. tt. 8–11. Unknown parameter
|coauthors=
ignored (help)