Alþingi
Senedd genedlaethol Gwlad yr Iâ yw'r Alþingi (seinir fel "Althing"). Dyma sefydliad seneddol hyna'r byd, sy'n dal i fodoli.[1] Cafodd ei sefydlu yn 930 yn Þingvellir, (sy'n golygu "maes y senedd") tua 45 km i'r dwyrain o'r hyn a adweinir, bellach, fel y brifddinas, Reykjavík. Hyd yn oed ar ôl yr Undeb gyda Norwy yn 1262 cynhaliodd yr Althing ei sesiynau yn Þingvellir hyd at 1799, pan gafwyd seibiant o 45 mlynedd. Cafodd ei ailgychwyn yn 1844 a'i symud i Reykjavík, sef ei gartref ers hynny. Codwyd adeilad y llywodraeth presennol, sef yr Alþingishús, yn 1881 allan o garreg o Wlad yr Iâ.
Llywodraeth Gwlad yr Iâ Alþingi Íslendinga | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambraeth |
Arweinyddiaeth | |
Llefarydd | Einar Kristinn Guðfinnsson, Plaid Annibynnol ers 23 Mai 2013 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 63 |
Grwpiau gwleidyddol | Y Llywodraeth (38)
Yr Wrthblaid (25)
|
Etholiadau | |
System bleidleisio | Rhestr pleidiau dan gynyrchioliad cyfrannol |
Etholiad diwethaf | 27 Ebrill 2013 |
Man cyfarfod | |
Alþingishúsið Austurvöllur 150 Reykjavík Gwlad yr Iâ | |
Gwefan | |
Llywodraeth Gwlad yr Iâ |
Mae cyfansoddiad y wlad yn nodi chwe etholaeth gyda'r posibilrwydd o seithfed, pe bai raid. Maent wedi eu diffinio'n fanwl mewn dogfennau cyfreithiol. Etholir naw cynrychiolydd ym mhob etholaeth ac ychwanegir at y nifer hwn drwy drefn nid annhebyg i'r hyn sy'n bodoli yng Nghymru drwy gynyrchioliad cyfrannol. Er mwyn derbyn aelodau ychwanegol o dan y drefn hon, mae'n rhaid i'r blaid gael dros 5% o'r bleidlais genedlaethol. Yng Ngwlad yr Iâ, mae'r nifer sy'n bwrw eu pleidlais yn uchel, ac fe welir dros 85% yn pleidleisio fel arfer; e.e. yn 2003 bwriodd 87.7% eu pleidlais.
Mae deddfwrfa Gwlad yr Iâ yn un dilyn model unsiambraeth; yr Alþingi yw'r unig siambr, does dim ail siambr fel sydd mewn gwladwriaethau eraill megis Iwerddon lle mae'r Oireachtas yn cynnwys Dáil Éireann a Seanad Éireann.
Y Llywydd presennol yw Einar K. Guðfinnsson.
Mae perthynas agos yn etymolegol a gwleidyddol rhwng yr Alþing a senedd Ynysoedd Ffaröe y Løgting.