Unsiambraeth
Mae deddfwrfa neu system unsiambraeth yn golygu bod gwladwriaeth yn cynnwys un cynulliad deddfwriaethol yn unig (gelwir yn aml yn "siambr"), nid dwy neu fwy.
Mae llawer o wledydd sydd â systemau unsiambr [1] yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen. Mewn system dwysiambraeth ceir fel rheol dwy siambr a elwir yn generig, "y siambr isaf" a'r "siambr uchaf", ond ceir amrywiaethau lleol megis y Tŷ'r Cyffredin a Tŷ'r Arglwyddi yn y Deyrnas Unedig.
Dadleuon o blaid Deddfwrfa Unsiambr
golyguUn o'r safbwyntiau o blaid seneddau unsiambr yw y byddai siambr uchaf, a etholir gyda'r un gweithdrefnau a swyddogaethau â siambr is, yn ddyblyg ddiwerth. Yn ôl y theori hon, gall pwyllgorau seneddol gyflawni swyddogaeth "myfyrio", a ymddiriedir yn aml i'r ail siambr, tra gellir ymddiried mewn cyfansoddiad ysgrifenedig i ddiogelu'r cyfansoddiad.
Mewn llawer o achosion, mae gwladwriaethau sydd heddiw wedi mabwysiadu gweindyddiaeth unsiambr wedi bod â dau siambr yn y gorffennol. Un rheswm dros newid o'r fath yw gorgyffwrdd y siambr uchaf â'r siambr isaf a'i rhwystr o'r broses ddeddfwriaethol, er enghraifft diddymwyd yr hyn a ddigwyddodd i Landsting, ail siambr Denmarc ym 1953. Efallai mai rheswm arall yw aneffeithiolrwydd siambrau fel teimlwyd yn achos Gyngor Deddfwriaethol Seland Newydd, a ddiddymwyd ym 1951.
Mae cefnogwyr unsiambraeth yn pwysleisio'r angen i reoli gwariant seneddol a dileu'r gwaith diangen a wneir gan y ddwy siambr. Mae beirniaid siambr sengl yn pwysleisio cydbwysedd y pwerau y mae system siambr ddeuol yn eu caniatáu, gan ofyn am fwy o gonsensws ar faterion deddfwriaethol. Un o nodweddion y siambr sengl yw rhoi mwy o ddylanwad i ardaloedd trefol mwy poblog nag i ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth.
Rheswm arall a ddaeth â chefnogaeth y siambr sengl yw y bydd yn hawdd ei ddilyn gan ostyngiad yn nifer y seneddwyr a chydweithredwyr. Mae hyn yn cynnwys rhai ystyriaethau:
- gostyngiad mewn costau polisi;
- crynodiad mwy o bwerau;
- etholaethau mwy, llai seneddol fesul mil o drigolion, ac felly llai o gynrychiolaeth o'r etholwyr a llai o wleidyddiaeth yn y diriogaeth.
Mae llawer o wledydd sydd â systemau un siambr yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen.
Gweriniaeth Iwerddon
golyguCafwyd trafodaeth fywiog [2] yng Ngweriniaeth Iwerddon dros ac yn erbyn symud y Ddeddfwrfa, yr Oireachtas, i system unsiambr gan ddileu Seanad Éireann (yr ail siambr llai) a dim ond cadw'r Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at gynnal refferendwm ar y pwnc yn 2013.
Cafwyd dadleuon dros ddiwygio'r Seanad yn hytrach na'i ddileu.[3] Cafwyd refferendwm,a oedd yn ffurfiol ar "Thirty-second Amendment of the Constitution (Abolition of Seanad Éireann) Bill 2013"[4] ei chynnal ar 4 Hydref 2013. Aeth 39% o'r boblogaeth i bleidleio, a hynny yn erbyn dileu'r Seanad. Pleidleisiodd 591,937 yn o blaid dileu y Seanad (48.2%) a 634,437 (51.8%) yn erbyn.[5]
Deddfwrfeydd Unsiambr Gwledydd Annibynnol Ewrop
golygu- Milli Məclis Aserbaijan
- Folketing Denmarc
- Azgayin Zhoghov Armenia
- Narodno Sabranie Bwlgaria
- Kuvendi i Republikës së Kosovës; Скупштина Републике Косово Cosofo
- Sabor Croatia
- Riigikogu Estonia
- Eduskunta Ffindir
- საქართველოს პარლამენტი, sakartvelos p'arlament'i Georgia
- Voulí ton Ellínon, Βουλή των Ελλήνων Gwlad Groeg
- Országgyűlés Hwngari
- Saeima Latfia
- Seimas Lithwania
- Landtag Lichtenstein
- Chambre des Députés Lwcsembwrg
- Parlamentul Republicii Moldova Moldofa
- Storting Norwy [6]
- Assembleia da República Portiwgal
- Narodna Skupstina Serbia
- Riksdag Sweden (er 1971)
- Althing Gwlad yr Iâ
- Verchovna Rada Iwcrain
Unsiambriaeth mewn Tiriogaethau Is-wladwriaeth
golyguY norm gyda cenhedloedd neu diriogaethau is-wladwriaeth yw unsiambraeth. Gwelir hyn yn achos Cymru lle ceir ond un siambr, sef Senedd Cymru. Gellid dadlau bod y senedd ganolog wladwriaethol yn gweithredu fel ail siambr answyddogol o ran bod mesurau a deddfau o fewn cwmpawd penodol o hawliau sydd gan deddfwrfa cenedl neu diriogaeth is-wladwriaethol.
Ymysg y deddfwriaethau is-wladwriaeth sydd â system unsiambraeth mae:
- Senedd Cymru gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
- Senedd yr Alban gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
- Senedd Fflandrys gwladwriaeth Gwlad Belg
- Landtag - senedd-dai taleithiau Yr Almaen
Yr Unol Daleithiau
golyguMae'r Unol Daleithiau yn eithriad lle mae gan y taleithiau draddodiad balch o gynnal deddfwrfeydd dwysiambr yn hytrach nag unsiambriaeth. O fewn i'r UDA, dim ond talaith Nebraska sydd â deddfwrfa unsiambr - newidiwyd i'r system yma wedi pleidlais i neud o'r dwysiambr yn 1937.[7][8] Darganfyddodd astudiaeth yn 2018 bod ymdrechion i symud i unsiambriaeth yn nhaleithiau Ohio a Missouri wedi methu oherwydd gwrthwynebiad gan bobl cefn gwlad[8] lle roedd pryder y byddai cymunedau gwledig yn colli dylanwad mewn system lle ceir ond un siambr.[8]
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://termau.cymru/#unicamera
- ↑ https://www.theguardian.com/commentisfree/2013/oct/03/ireland-seanad-reform-not-abolition
- ↑ https://assets.gov.ie/8456/d3ad1abe164149669ce5108accb17a51.pdf
- ↑ "Thirty-second Amendment of the Constitution (Abolition of Seanad Éireann) Bill 2013". Bills 1992–2013. Oireachtas. Cyrchwyd 9 July 2013.
- ↑ https://www.rte.ie/news/2013/1005/478505-referendum-count/
- ↑ Hyd at 2009, gellid rhannu Stortio yn ddwy ystafell ar gyfer rhai swyddogaethau. Ers etholiadau 2009 mae wedi dod yn senedd un siambr arferol.
- ↑ "History of the Nebraska Unicameral". nebraskalegislature.gov. Cyrchwyd 2015-04-17.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Myers, Adam S. (2018). "The Failed Diffusion of the Unicameral State Legislature, 1934–1944" (yn en). Studies in American Political Development 32 (2): 217–235. doi:10.1017/S0898588X18000135. ISSN 0898-588X.