Alan Bickerstaff
Rheolwr a chyn-chwaraewr pêl-droed yw Alan Bickerstaff. Hyd Gorffennaf 2009, roedd yn reolwr ar Y Rhyl. Cyn ymuno â'r Rhyl treuliodd gyfnod byr fel hyfforddwyr Porthmadog, gan eu helpu i osgoi'r cwymp o'r Uwchgynghrair yn ystod tymor 2007-2008. Daeth i'r amlwg fel hyfforddwr gyda Airbus UK a oedd yn cael eu rheoli ar y pryd gan gyn-chwaraewr Wrecsam, Gareth Owen. Yn eironig ddigon, roedd Owen yn un o'r chwaraewyr cyntaf i Bickerstaff ei arwyddo ar ôl cymryd yr awenau yn y Rhyl.
Alan Bickerstaff | |
---|---|
Galwedigaeth | rheolwr pêl-droed |
Chwaraeon |