C.P.D. Wrecsam

Clwb pêl-droed proffesiynol

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn glwb pêl-droed yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf ac a sefydlwyd yn 1864.[2] Cae Ras yw stadiwm a maes y Clwb, maes sydd wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru (pêl-droed a rygbi'r undeb) yn ogystal â bod yn gartref i'r 'Dreigiau'; yn hanesyddol adnabyddir y clwb fel y Robins. Dyma stadiwm rhyngwladol hynaf y byd.[3]

C.P.D. Wrecsam
Enghraifft o'r canlynolclwb pêl-droed Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1864 Edit this on Wikidata
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
PerchennogRyan Reynolds, Rob McElhenney Edit this on Wikidata
PencadlysWrecsam Edit this on Wikidata
Enw brodorolWrexham A.F.C. Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wrexhamafc.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
C.P.D. Wrecsam
Enw llawn Clwb Pêl-droed Wrecsam
Llysenw(au) Y Dreigiau
Sefydlwyd 1864; 160 blynedd yn ôl (1864)[1]
Maes Y Cae Ras
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam
Rheolwr Baner Lloegr Phil Parkinson
Cynghrair Adran Gyntaf

Yn 2011, yn dilyn trafferthion ariannol, prynwyd Y Cae Ras gan Brifysgol Glyndŵr; nid yw'r cytundeb yma'n cynnwys y clwb pel­-droed na'r clwb rygbi'r cynghrair, ond mae'n caniatáu iddyn nhw barháu i ddefnyddio'r cyfleusterau. "Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam" yw perchnogion y clwb.[4][5] Erbyn Mai 2015, roedd gan y Clwb 4,129 o aelodau (oedolion a chyd-berchnogion).[6]

Mae'r record am y nifer mwyaf o gefnogwyr yn mynd nôl i 1957 pan chwaraewyd yn erbyn Manchester United F.C. gyda 36,445 o gefnogwyr yn gwylio.[7]

Mae gan y clwb nifer o ymrysonau â chlybiau Seisnig, gan gynnwys Dinas Caer a'r Amwythig. Ymhlith y gemau mwyaf cofiadwy y mae'r gêm yn erbyn Arsenal F.C. yn 1992, a oedd ar frig Cwpan yr FA ar y pryd. Llwyddodd y Clwb hefyd i drechu FC Porto yn 1984 yng Nghwpan Ewrop.

Pêl-droed Merched

golygu

Ceir hefyd clwb pêl-droed a strwythur ar gyfer pêl-droed i fenywod. Mae C.P.D. Merched Wrecsam yn rhan o system Cynghreiriau Adran Cymru.

 
Tu mewn i'r Cae Ras

Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1872 (yn ôl bathodyn y clwb, 1873 oedd y flwyddyn). Cafodd ei groesawu i Gynghrair Lloegr yn 1921.

Mae'r clwb wedi cynyrchioli Cymru yn Ewrop sawl gwaith yn sgil ennill Cwpan Cymru. Gwnaethon nhw guro nifer o dîmau enwog, ac yn 1976 wnaethon nhw gyrraedd yr wyth olaf y European Cup Winners' Cup, cyn colli i Anderlecht o Wlad Belg.

Yn 2005 cipiwyd yr LDV Vans Trophy gan Wrecsam. Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn erbyn Southend F.C. gyda Darren Ferguson a Juan Ugarte'n sgorio mewn buddigoliaeth o 2-0.

Disgynodd y clwb allan o Gynghrair Lloegr yn nhymor 2007/08 ar ôl treulio 87 mlynedd ynddi.

Yn 2013, aeth Wrecsam i chwarae ddwywaith yn Stadiwm Wembley yn Llundain ar ôl ennill yn rownd derfynol Tlws yr FA yn erbyn Grimsby a cholli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r gynghrair yn erbyn Casnewydd.

Pigion

golygu

Chwaraewyr

golygu
  • Y nifer mwyaf o goliau mewn tymor – 44.[8] Tommy Bamford (1933–34)
  • Y nifer mwyaf o goliau'r Gynghrair – 174.[8] Tommy Bamford (1928–34)
  • Y nifer fwyaf o Hat Tricks – 16. Tommy Bamford
  • Y nifer mwyaf o goliau a sgoriwyd mewn un gê – 7.[9] Andy Morrell v C.P.D Merthyr Tudful, (Cwpan yr FAW; 16 Chwefror 2000)
  • Mwyaf o ymddangosiadau– 592 Arfon Griffiths (1959–61, 1962–79)
  • Mwyaf o gapiauDennis Lawrence, 89 i Dîm Cenedlaethol Trinidad & Tobago
  • Mwyaf o gapiau tra yn Wrecsam – Dennis Lawrence – 49 i Trinidad & Tobago
  • Chwaraewr hynaf – Billy Lot Jones – aged 46 v Tranmere Rovers
  • Chwaraewr ieuengaf – Ken Roberts – 15 blwyddyn a 158 diwrnod v Bradford Park Avenue A.F.C.

Rhestr Rheolwyr

golygu
  • Ted Robinson (1912-1924)
  • Charlie Hewitt (1924-1929)
  • Jack Baynes (1929-1931)
  • Ernest Blackburn (1932-1937)
  • Jimmy Logan (1937-1938)
  • Tom Morgan (1938-1940)
  • Tom Williams (1940-1949)
  • Les McDowall (1949-1950)
  • Peter Jackson (1950-1954)
  • Cliff Lloyd (1954-1957)
  • John Love (1957-1959)
  • Cliff Lloyd (1959-1960)
  • Billy Morris (1960-1961)
  • Ken Barnes (1961-1965)
  • Billy Morris (1965)
  • Jack Rowley (1966-1967)
  • Alvan Williams (1967-1968)
  • John Neal (1968-1977)
  • Arfon Griffiths (1977-1981)
  • Mel Sutton (1981-1982)
  • Bobby Roberts (1982-1985)
  • Dixie McNeil (1985-1989)
  • Brian Flynn (1989-2001)
  • Denis Smith (2001-20007)
  • Brian Carey (2007)
  • Brian Little (2007-2008)
  • Dean Saunders (2008-2011)
  • Andy Morrell (2011-2014)
  • Kevin Wilkin (2014-2015)
  • Gary Mills (2015-2016)
  • Dean Keates (2016-2018)
  • Andy Davies (dros dro) (2018)
  • Sam Ricketts (2018)
  • Graham Barrow (2018-2019)
  • Bryan Hughes (2019)
  • Dean Keates (2019-2021)
  • Phil Parkinson (2021-)

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
  2. Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
  3. Bagnall, Steve. "Guinness cheers Racecourse with official record". Daily Post Wales. Cyrchwyd 18 Mehefin 2008.
  4. wrexhamafc.co.uk; Archifwyd 2017-05-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd Ionawr 2017.
  5. Randall, Liam. "Done Deal – WST buy WFC". Wrexham.com. Cyrchwyd 26 Medi 2011.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-07. Cyrchwyd 2017-01-17.
  7. http://www.11v11.com/matches/wrexham-v-manchester-united-26-january-1957-210986/
  8. 8.0 8.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-16. Cyrchwyd 2017-01-17.
  9. "wrexhamafc.co.uk; adalwyd Ionawr 2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-01. Cyrchwyd 2017-01-17.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato