Alan Sugar
Dyn busnes a phersonoliaeth teledu o Loegr yw Syr Alan Michael Sugar (ganed 24 Mawrth 1947). O'i wreiddiau cynnar yn nwyrain Llundain, bellach mae gan Sugar ffortiwn amcangyfrifol o £830m (US$1.25 biliwn). Er iddo wneud ei arian ym myd technoleg yn wreiddiol, daw y rhan fwyaf o'i gyfoeth o'r bortffolio o dai ac adeiladau bellach, yn hytrach nag o'i fusnesau. Yn 2007, gwerthodd Amstrad, a oedd yn un o'i fusnesau mwyaf.
Alan Sugar | |
---|---|
Ganwyd | Alan Michael Sugar 24 Mawrth 1947 Hackney |
Man preswyl | Chigwell |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | entrepreneur, gwleidydd, hunangofiannydd, person busnes, gwyddonydd cyfrifiadurol |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Enterprise Champion, Enterprise Champion |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Ann Simons |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Mae Sugar hefyd yn enwog fel cadeirydd Tottenham Hotspur F.C. o 1991 tan 2001, ac am serennu yng nghyfres deledu'r BBC The Apprentice, sydd bellach yn ei phumed gyfres. Darlledwyd y cyfresi o 2005 a 2009 ac fe'u seiliwyd ar y sioe deledu Americanaidd o'r un enw, gyda'r dyn busnes Donald Trump.