Cyflwynydd radio a cherddor Cymreig oedd Alan Thompson (196328 Medi 2017).

Alan Thompson
Ganwyd1963 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlledwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Yn yr 1980au roedd yn un o sylfaenwyr y band Peppermint Parlour o Gaerdydd, gan chwarae'r gitâr, ganu ac ysgrifennu caneuon i'r band.[1]

Ymunodd a BBC Radio Wales yn 1991 gan weithio fel gohebydd ac yna cyflwynydd ar y sioe adloniant nos Wener, Rave a ddarlledwyd ar Radio Wales ac ar rwydwaith Radio Five. Bu'n gweithio ar y sioe am dair blynedd gyda'i gyd-gyflwynwr Rob Brydon. Aeth ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni cerddoriaeth ar yr orsaf, yn fwyaf diweddar The Evening Show, a ddaeth i ben yn Awst 2013. Ers hynny, roedd yn cyflwyno sioe ar nos Sul.

Ar deledu, cyflwynodd ddwy gyfres o Don't Look Back ar BBC Wales a cyflwynodd Wobrau Celf BBC Wales.[2]

Bu farw ar ôl salwch byr yn 54 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu