Rob Brydon

actor a aned yn Baglan yn 1965

Mae Rob Brydon (ganwyd Robert Brydon Jones, 3 Mai 1965, Abertawe) yn actor, digrifwr a dynwaredwr o Gymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran fel Bryn West yn y ddrama gomedi Gavin and Stacey.

Rob Brydon
LlaisRob Brydon BBC Radio4 Front Row 18 Mar 2012 b01dhl11.flac Edit this on Wikidata
GanwydRobert Brydon Jones Edit this on Wikidata
3 Mai 1965 Edit this on Wikidata
Baglan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm, digrifwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, actor llais, canwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.robbrydon.com Edit this on Wikidata

Cychwynodd weithio i Radio Wales pan oedd yn 20 oed a daeth yn gyflwynydd radio ar orsaf BBC Radio Wales a BBC Radio 5. Daeth ei lais yn adnabyddus iawn wrth iddo leisio nifer fawr o hysbysebion a chyhoeddi ar deledu a ffilm. Datblygodd ei broffil comedi pan ysgrifennodd a serennodd yn y gyfres Marion and Geoff (2000) a'r gyfres o ddeilliodd o'r gyfres hon The Keith Barret Show. Mae hefyd wedi cyflwyno y rhaglen gwis Rob Brydon's Annually Retentive.

Mae Brydon yn adnabyddus am ei gomedi tywyll rhyfedd ac anghysurus ac mae wedi gweithio gyda nifer o ddigrifwyr ac actorion gyda'r un math o hiwmor ag ef, gan gynnwys Steve Coogan sydd wedi cyfeirio at Brydon fel rhyw fath o arloeswr. Fel Coogan mae ganddo'r ddawn i ddynwared pobl enwog. Mae wedi dangos hyn mewn rhaglenni fel The Trip, lle mae ef a Coogan yn chwarae fersiwn ffuglennol o'u hunain, yn teithio o gwmpas yn adolygu bwytai.

Yn 2003, cafodd ei enwi fel un o 50 act doniolaf ym myd comedi Prydain gan bapur newydd The Observer.

Yn 2018 ymddangosodd fel gwestai arbennig yn y gyfres Trust yn chware ran Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ym mhenod 9 White Car in a Snowstorm [1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. - full credits adalwyd 1 Medi 2018
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.