Albert Lebrun
Gwleidydd o Ffrainc oedd Albert Lebrun (29 Awst 1871 – 6 Mawrth 1950) a oedd yn Arlywydd Ffrainc rhwng 1932 ac 1940. Ef oedd arlywydd olaf y Trydydd Gwerninaeth. Roedd yn aelod o blaid dde-canolig y Cyngrhair Gweriniaethol Democrataidd (ARD).
Albert Lebrun | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1871 Mercy-le-Haut |
Bu farw | 6 Mawrth 1950 16ain bwrdeistref Paris, Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, peiriannydd, pryfetegwr |
Swydd | Arlywydd Ffrainc, President of the Senate of France, Cyd-Dywysog Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, senator of the French Third Republic, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Minister of the Colonies, Minister of the Colonies, Gweinidog Rhyfel, Minister of the Colonies |
Plaid Wleidyddol | Democratic Republican Alliance |
Priod | Marguerite Lebrun |
Plant | Marie Freysselinard |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the White Eagle, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, Grand Cross of the Royal Order of Cambodia, Grand cross of the Order of the Dragon of Annam, Order of the Star of Anjouan, Grand Cross of the Order of Nichan el Anouar, Urdd Brenhinol y Seraffim, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd Goruchaf Crist, Marchog Urdd yr Eliffant |
llofnod | |
Ganwyd i deulu ffermio yn Mercy-le-Haut, Meurthe-et-Moselle, mynychodd yr École polytechnique a'r École des Mines, ggan raddio or ddau yr uchaf yn ei ddosbarth. Daeth yn beiriannydd cloddio yn Vesoul a Nancy, ond gadawodd yr alwedigaeth hwnnw pan oedd yn 29 oed er mwyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.
Enillodd Lebrun sedd yn Siamp y Dirprwyon ym 1900 fel aelod o'r Left Republican Party, yn ddiweddarach gwasanaethodd ar y cabinet fel Gweinidog y Gwladfeydd o 1912–1914, Gweinidog RHyfel ym 1913 a GWeinidog dros y Rhanbarthau a oedd wedi eu RHyddhau, 1917–1919. Ymunodd â'r Gyngrhair Democrataidd, a cafodd ei ethol i senedd Ffrainc dros Meurthe-et-Moselle ym 1920, a gwasnaethodd fel Is-Arlywydd y Senedd o 1925 hyd 1929. Ef oedd Arlywydd y senedd o 1931 hyd 1932.
Etholwyd Lebrun yn Arlywydd France yn dilyn llofruddiaeth yr arlywydd Paul Doumer gan Pavel Gurgulov ar 6 Mai 1932. Ail-etholwyd ym 1939, yn bennaf oherwydd ei record of gymhwyso pob ochr gwleidyddol, ni ymarferodd lawer o bwêr fel arlywydd. Ar 10 Gorffennaf 1940, cafodd Lebrun ei ddisodli gan Philippe Pétain (er na ymddiswyddodd Lebrun yn swyddogol) mewn pleidlais yn y senedd.
Dihengodd i Vizille (Isère) ar 15 Gorffennaf, ond deliwyd ef ar 27 Awst 1943 pan symudodd yr Almaenwyr i mewn i'r ardal, a cafodd ei anfon yn garcharor i Gastell Itter yn Tyrol. Ar 10 Hydref 1943, caniatawyd ef i ddychwelyd i Vizelle oherwyd ei fod mewn iechyd gwael, ond gorychwilwyd ef yn gyson.
Ar 9 Awst 1944, pan adferwyd llywodraeth Ffrainc gan y Cynghreiriad, cyfarfodd Lebrun Ia Charles de Gaulle a chydnabyddodd arweiniaeth y Cadfridog, gan ddweud nad oedd wedi ymddeol yn swyddogol oherwydd fod didyddymiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi golygu na fu neb ar ôl i dderbyn ei ymddiswyddiad.
Ar ôl y rhyfel, arhosodd Lebrun yn ei ymddeoliant. Bu farw o pneumonia ym Mharis wedi cyfnod o salwch.
Mae gan Lebrun nifer o ddisgynyddion enwog mewn sawl gwlad, gan gynnwys y cymdeithaswraig enwog Elisha Stenzel, sydd hefyd yn pethyn i Lebrin ar ochr ei hen-nain.