Charles de Gaulle
Gwleidydd a chadfridog o Ffrainc oedd Charles André Joseph Marie de Gaulle (22 Tachwedd 1890 – 9 Tachwedd 1970). Fe'i ganwyd yn Lille. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr 20g.
Charles de Gaulle | |
---|---|
Ffugenw | Charles de Lugale |
Ganwyd | Charles André Joseph Marie de Gaulle 22 Tachwedd 1890 Lille |
Bu farw | 9 Tachwedd 1970 o aneurysm Colombey-les-Deux-Églises |
Man preswyl | Palas Élysée |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwladweinydd, bywgraffydd, tactegydd milwrol, swyddog milwrol, gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Ffrainc, Llywydd y Cyngor, president of the Provisional Government of the French Republic, Cyd-Dywysog Ffrainc, Cyd-Dywysog Ffrainc, llywydd corfforaeth, Minister of National Defence |
Adnabyddus am | Mémoires de guerre |
Prif ddylanwad | Philippe Pétain, Charles Maurras |
Plaid Wleidyddol | UDR, RPF |
Tad | Henri de Gaulle |
Mam | Jeanne Maillot |
Priod | Yvonne de Gaulle |
Plant | Anne de Gaulle, Philippe de Gaulle, Élisabeth de Gaulle |
Llinach | teulu de Gaulle |
Gwobr/au | Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Cymrawd y 'Liberation', Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr, Royal Order of Cambodia, Order of the Dragon of Annam, Cadwen Frenhinol Victoria, Marchog Urdd yr Eliffant, Urdd Brenhingyff Chakri, Croix de guerre 1939–1945, Croix de guerre 1914–1918, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, honorary doctor of the University of Brasília, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Silver Cross of the Virtuti Militari, Medal Victoria, Urdd y Gwaredwr, honorary citizen of Brussels, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Gwobr Marcelin Guérin, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, honorary citizen of Mons, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav |
llofnod | |
- Am Charles de Gaulle y llenor ewch i Charles de Gaulle
Gyrfa gynnar
golyguRoedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y 1930au pan gyhoeddodd ei lyfr Vers l'armeé de métier (1934), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn 1940 pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Roedd yn aelod o gabinet Paul Reynaud ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.
Yr Ail Ryfel Byd
golyguYn dilyn cwymp Ffrainc i fyddin yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw Ffrainc Rydd. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod, gan ysgogi'r résistance gyda'i apêl ar 18 Mehefin 1940. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle â llywodraethau Prydain Fawr ac America. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn 1943 fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn Algiers. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o 1945 hyd ei ymddeoliad ohono yn 1946.
Y cyfnod ôl-ryfel
golyguYm 1947 sefydlodd y Rassemblement du Peuple Français ond nid oedd yn llwyddiannus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo ym 1953. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod.
Arlywydd y Bumed Weriniaeth
golyguAlgeria
golyguDeuddeng mlynedd wedi iddo ymddiswyddo o arwain Llywodraeth Ddros Dro Ffrainc, dychwelodd Charles de Gaulle i arwain ei wlad ar ôl argyfwng Mai 1958, a achoswyd gan analluogrwydd y Drydedd Weriniaeth i ddatrys Rhyfel Algeria a ddechreuodd ym 1954. Croesawyd dychweliad de Gaulle gan Fyddin Ffrainc a'r pieds-noirs, setlwyr Ewropeaidd Algeria, oedd yn disgwyl iddo gefnogi achos Algeria Ffrengig. Ar 4 Mehefin 1958 ymwelodd yr arlywydd newydd ag Algeria ac fe'i groesawyd fel achubwr, gan ymddangos o flaen torfeydd gorawenus a datgan "Je vous ai compris!" ("Yr wyf wedi eich deall!").
Ond yn fuan cafodd y fyddin a'r pieds-noirs eu dadrithio gan eu harweinydd newydd. Dod â therfyn i'r rhyfel oedd blaenoriaeth de Gaulle yn ystod pedair mlynedd gyntaf ei arlywyddiaeth, ac wynebodd cyfyngiadau sylweddol o bob ochr wrth geisio cyflawni'r dasg hon. Roedd gorchfygiad Brwydr Dien Bien Phu yn ffres yng nghof Byddin Ffrainc, ond nid oedd cadfridogion nac milwyr y rhengoedd isaf yn dymuno cilio rhag trefedigaeth Ffrengig eto. Roedd y pieds-noirs yn dymuno cadw eu statws breintiedig yn Algeria dros y boblogaeth frodorol. Yn ogystal roedd nifer o gefnogwyr gwleidyddol de Gaulle, megis Michel Debré, Prif Weinidog rhwng 1959 a 1962, o blaid gadw Algeria yn rhan o Ffrainc. Ac agwedd y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN) oedd i barháu i ryfela nes yr oedd annibyniaeth i weriniaeth Algeriaidd brodorol.
Er mwyn trechu'r cyfyngiadau hyn, defnyddiodd de Gaulle nid yn unig ei rymoedd arlywyddol ond hefydd ei fri, dylanwad, a chymeriad personol.[1] Gwnaeth defnydd o rethreg wladgarol ar deledu. Ar 16 Medi 1959, darlledwyd araith gan de Gaulle o Balas Élysée. Ynddi, addawodd yr arlywydd i sicrháu hunan-benderfyniad ar gyfer holl boblogaeth Algeria o fewn pedair mlynedd i gadoediad gan bob ochr yn y gwrthdaro. Rhestrodd tri dewis am ddyfodol Algeria: annibyniaeth ("ymwahaniad"), integreiddiad ("Ffranceiddio"), ac "uniad agos â Ffrainc". Ffafriodd de Gaulle y drydydd dewis, a gyda'r araith hon fe siapiodd y ddadl dros ddyfodol Algeria. Llwyddodd i greu tir canol rhwng dymuniadau'r setlwyr dros integreiddio a dymuniadau'r brodorion dros annibyniaeth.
Nid oedd ymateb swyddogion y fyddin yn Algeria i'r araith yn ffafriol, a dechreuant ymochri ag elfennau eithafol yng nghymuned y pieds-noirs gan alw am ddymchweliad de Gaulle. Ar 24 Ionawr 1960 cafodd streic gyffredinol ei galw yn Algiers, a dechreuodd nifer o'r fyddin gydymdeimlo â'r pieds-noirs yn ystod gwrthryfel Wythnos yr Atalgloddiau. Ar 29 Ionawr rhoddodd de Gaulle araith i amddiffyn cysyniad hunan-benderfyniad gan apelio at y fyddin a'r pieds-noirs. Roedd ganddi effaith mawr ac ildiodd arweinwyr y gwrthryfel ar 31 Ionawr.
Wrth i realiti annibyniaeth ddod yn agosach, ar 22 Ebrill 1961 arweiniodd y Cadfridogion Challe, Salan, Jouhaud, a Zeller putsch yn erbyn de Gaulle gan gipio Algiers ac arestio cynrychiolwyr llywodraeth Paris. Ar 23 Ebrill condemiodd de Gaulle y putsch fel "antur ddwl ac atgas" a galwodd ar luoedd Ffrengig i aros yn ffyddlon i'w arlywyddiaeth. Methodd y putsch yn sydyn a chynyddodd poblogrwydd yr arlywydd. Rhoddodd hyn gryfder i de Gaulle yn nhrafodaethau Évian ym Mai 1961, ond oherwydd ei fynegiadau cyhoeddus niferus o'i ddymuniad i ddod â therfyn i'r rhyfel mor gynted ag oedd yn bosib, bu rhaid iddo wneud nifer o gonsesiynau i'r FLN. Ar 8 Ebrill 1962, cadarnhawyd cytundebau Évian gan 90% o bleidleiswyr yn Ffrainc fetropolitanaidd, ac ym 1962 enillodd Algeria ei hannibyniaeth.
Diwrnod y Siacal
golyguYm Medi 1961 ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr Organisation de l'Armée secrète (OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i Algeria. Seiliodd y nofelydd Frederick Forsyth ei nofel Day of the Jackal ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn 1973 yn ogystal.
Ar lwyfan y byd
golyguWedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn 1962, canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwclear yn 1963 a thynnodd Ffrainc allan o NATO yn 1966. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno â'r EEC.
Problemau domestig
golyguOnd wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth Mai, 1968 gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn 1969 yn sgîl colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.
Bywyd personol
golyguPriododd Charles de Gaulle Yvonne Vendroux ar 7 Ebrill 1921. Cafon nhw tri phlentyn: Philippe (1921–2024), Élisabeth (1924–2013), a briododd y Cadfridog Alain de Boissieu, ac Anne (1928–1948). Roedd gan Anne syndrom Down a bu farw'n oed 20.
Ei ddylanwad
golyguAm flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth ym 1970 roedd ei bolisïau Gaullaidd yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.
Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw Charles de Gaulle, yn fardd Llydaweg ac yn un o arloeswyr Pan-Geltigiaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Shennan (1993), t. 93.
Ffynonellau
golygu- Cook, D. Charles de Gaulle: A Biography (Llundain, Secker & Warburg, 1984).
- Crozier, B. De Gaulle: The Statesman (Llundain, Eyre Methuen, 1973).
- De Gaulle, C. Memoirs of Hope: Renewal 1958–62, Endeavour 1962– (Llundain, Weidenfeld and Nicolson, 1971). Cyfieithwyd gan Terence Kilmartin.
- Fenby, J. The General: Charles de Gaulle and the France He Saved (Llundain, Simon & Schuster, 2010).
- Horne, A. A Savage War of Peace: Algeria 1954–1962 (Efrog Newydd, New York Review Books, 2006).
- Jackson, J. Charles de Gaulle (Llundain, Cardinal, 1990).
- Pickles, D. 'General de Gaulle and Algeria', The World Today, 17(2) (1961) pp. 49–58.
- Schoenbrun, D. The Three Lives of Charles de Gaulle (Llundain, Hamish Hamilton, 1966).
- Shennan, A. De Gaulle (Llundain, Longman, 1993).
- Sulzberger, C. L. The Test: De Gaulle and Algeria (Llundain, Rupert Hart-Davis, 1962).
Rhagflaenydd: Michel Debré |
Prif Weinidog Ffrainc 1 Mehefin 1958 – 8 Ionawr 1959 |
Olynydd: Michel Debré |
Rhagflaenydd: René Coty |
Arlywydd Ffrainc 8 Ionawr 1959 – 28 Ebrill 1969 |
Olynydd: Georges Pompidou |
Rhagflaenydd: René Coty a Ramon Iglésias i Navarri |
Hanner-Tywysog Andorra 1959 – 1969 gyda Ramon Iglésias i Navarri |
Olynydd: Georges Pompidou a Ramón Malla Call |