Philippe Pétain
Milwr o Ffrainc oedd Henri Philippe Pétain (24 Ebrill 1856 - 23 Gorffennaf 1951). Ef oedd pennaeth Llywodraeth Vichy yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Philippe Pétain | |
---|---|
Ganwyd | Henri Philippe Bénoni Omer Joseph Pétain 24 Ebrill 1856 Cauchy-à-la-Tour |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1951 Port-Joinville |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Llywodraeth Vichy |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, swyddog milwrol, person milwrol |
Swydd | Gweinidog y Wladwriaeth, Dirprwy Brif Weinidog Ffrainc, Llywydd y Cyngor, Pennaeth Gwladwriaeth Ffrainc (Vichy), llysgennad Ffrainc yn Sbaen, Gweinidog Rhyfel, Is-lywydd, Seat 18 of the Académie française, Cyd-Dywysog Ffrainc |
Tad | Omer-Venant Pétain |
Mam | Clotilde Legrand |
Priod | Annie Pétain |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the White Eagle, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Commandeur de la Légion d'honneur, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Médaille militaire, Croix de guerre 1914–1918, Victory Medal 1914–1918, Médaille commémorative de la guerre 1914–1918, Colonial Medal, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Marshal of France, Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr, Urdd San Sior, 4ydd Dosbarth, Uwch Feistr y Lleng Anrhydedd, Urdd Seren Karađorđe, Croes am Ddewrder, Croes Rhyddid, Royal Order of Cambodia, Order of the Dragon of Annam, Coler Urdd Siarl III, Croix de guerre, Medal Victoria, Military Medal of Spain, Croesau Teilyngdod Milwrol, Urdd San Fihangel a San Siôr, Silver Cross of the Virtuti Militari |
llofnod | |
Ymunodd a'r fyddin yn 1876 ac astudiodd yn Ysgol Filwrol Saint-Cyr. Daeth i sylw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan benododd y Cadlywydd Joseph Joffre ef i fod yn gyfrifol am fyddin Ffrainc ym Mrwydr Verdun. Llwyddodd y fyddin Ffrengig i wrthsefyll ymosodiad yr Almaenwyr, a daeth Pétain yn arwr cenedlaethol. Gwnaed ef yn Farsial bythefnos wedi diwedd y rhyfel.
Yn 1940, pan oedd yn 84 oed, cytunodd i weithredu fel pennaeth Llywodraeth Vichy, oedd yn gyfrifol am ran o Ffrainc fel gwladwriaeth hanner-annibynnol dan uwchlywodraeth yr Almaen wedi Brwydr Ffrainc. Ym mis Ebrill, 1945, wedi i Ffrainc gael ei rhyddhau, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth. Rhoddwyd ef ar ei brawf, ei gael yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond oherwydd ei oedran a'i wasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, newidiodd Charles de Gaulle y ddedfryd i garchar am oes. Bu farw yn 95 oed yn y carchar ar yr Île d'Yeu.