Alecsander I, brenin Iwgoslafia
Teyrn o dras Serbaidd a Montenegroaidd o frenhinllin Karađorđević oedd Alecsander I (16 Rhagfyr [4 Rhagfyr yn yr Hen Ddull] 1888 – 9 Hydref 1934) a fu'n Frenin y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid o 1921 i 1929 a Brenin Iwgoslafia o 1929 i 1934. Bu hefyd, fel Rhaglyw Dywysog, yn arweinydd Teyrnas Serbia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid hyd at 1921.
Alecsander I, brenin Iwgoslafia | |
---|---|
Y Brenin Alecsander I | |
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1888 Cetinje |
Bu farw | 9 Hydref 1934 Marseille |
Man preswyl | Cetinje, Beograd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Serbia, Brenhiniaeth Iwcoslafia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | king of Yugoslavia, king of Yugoslavia |
Tad | Pedr I o Serbia |
Mam | Tywysoges Zorka o Montenegro |
Priod | Maria of Yugoslavia |
Plant | Prince Andrej of Yugoslavia, Pedr II o Iwgoslafia, Prince Tomislav of Yugoslavia |
Llinach | House of Karađorđević |
Gwobr/au | Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Mihangel Ddewr, Urdd Sant Andreas, Order of St. George, 3rd class, Urdd San Sior, 4ydd Dosbarth, Urdd Sant Sava, Urdd Seren Karađorđe, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Marchogol y Beddrod Sanctaidd, Médaille militaire, Urdd Tywysog Danilo I, Urdd yr Eliffant, Order of Saints Cyril and Methodius, Urdd Alecsander, Czechoslovak War Cross 1918, Urdd Coron Wendish, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Urdd yr Eliffant Gwyn, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Urdd y Gwaredwr, Urdd Sant Stanislaus |
llofnod | |
Ganed Aleksandar Karađorđević yn Cetinje, prifddinas Tywysogaeth Montenegro, yn ail fab i Petar Кarađorđević, un o'r frenhinllin a oedd yn alltud o Serbia, a'r Dywysoges Zorka, merch Niclas I, Tywysog Montenegro. Treuliodd ei fachgendod yng Ngenefa gyda'i dad. Aeth i St Petersburg ym 1899, ac wedi i'w dad esgyn i orsedd Serbia ym 1903 ymunodd Alecsander â Chorfflu'r Macwyaid, yr academi filwrol uchaf yn Ymerodraeth Rwsia. Ym 1909 ildiodd ei frawd hŷn, y Tywysog Coronog Siôr, ei hawl i'r orsedd, a daeth Alecsander felly yn aer aparawns ac ymgartrefodd gyda'i deulu yn Serbia. Gwasanaethodd yn gadlywydd yn ystod Rhyfel Cyntaf y Balcanau ac arweiniodd y Fyddin Gyntaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Otomaniaid ym Mrwydr Kumanovo yn Hydref 1912. Bu Alecsander hefyd yn gadlywydd yn Ail Ryfel y Balcanau yn erbyn Bwlgaria ym 1913.[1]
Yn sgil argyfwng cyfansoddiadol yng ngwanwyn 1914, datganodd y Brenin Pedr ei fod am ymddeol oherwydd ei henaint ac ildio'i frenhinfreintiau i'w etifedd, a dyrchafwyd y Tywysog Coronog Alecsander yn Rhaglyw Dywysog Serbia ar 24 Mehefin 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymdrechodd i sicrhau cefnogaeth Rwsia i Serbia ac apeliodd at ban-Slafiaeth drwy gefnogi achos y Slafiaid Deheuol yn Awstria-Hwngari. Fel pencadlywydd y lluoedd arfog, aeth Alecsander i faes y gad a chyd-deithiodd gyda'r Fyddin Frenhinol wrth iddi ffoi ar draws Albania yng ngaeaf 1915–16. Ar ddiwedd y rhyfel, arweiniodd ei luoedd i mewn i Beograd ar 31 Hydref 1918, ac ar 1 Rhagfyr datganwyd sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid, gan uno Serbia â thiriogaethau a ildiwyd gan Awstria-Hwngari yn ogystal â Montenegro. Esgynnodd Alecsander i'r orsedd yn sgil marwolaeth y Brenin Pedr ar 16 Awst 1921. Priododd â Maria (1900–61), merch Ferdinand, Brenin Rwmania, ar 8 Mehefin 1922, a chawsant dri mab: Petar (1923–70), Tomislav (1928–2000), ac Andrea (1929–90).
Ar 28 Mehefin 1921, ychydig wythnosau cyn i Alecsander esgyn i'r orsedd, mabwysiadwyd cyfansoddiad cyntaf y deyrnas—Cyfansoddiad Vidovan—gan sefydlu'r drefn ganoledig yn Beograd. Gwrthwynebwyd hyn gan genedlaetholwyr y tu allan i Serbia, yn enwedig y Croatiaid, a oedd yn gobeithio i'r undeb fod yn ffederasiwn gyda rhywfaint o ymreolaeth i'r cenhedloedd. Llofruddiwyd yr arweinydd Croataidd Stefan Radić yn y Skupština, y cynulliad cenedlaethol, gan wleidydd Serbaidd–Montenegroaidd ym Mehefin 1920, a sbardunodd i'r holl gynrychiolwyr Croataidd adael y ddeddfwrfa. Diddymwyd Cyfansoddiad Vidovdan gan y Brenin Alecsander yn Ionawr 1929, gan gychwyn cyfnod a elwir "Unbennaeth 6 Ionawr". Newidiwyd enw'r wlad i Iwgoslafia ar 3 Hydref 1929 fel rhan o'r ymdrech o uno amryw genhedloedd y Slafiaid Deheuol. Cynyddodd dicter y Croatiaid yn sgil cyhoeddi cyfansoddiad newydd gan Alecsander ym Medi 1931.
Saethwyd Alecsander yn farw, yn 45 oed, ar 9 Hydref 1934 ym Marseille, yn ystod ymweliad gwladwriaethol i Ffrainc; lladdwyd hefyd Louis Barthou, Gweinidog Tramor Ffrainc, a oedd yn eistedd yn yr un cerbyd â'r Brenin. Enw'r llofrudd oedd Vlado Chernozemski, asiant Bwlgaraidd o'r gudd-gymdeithas Facedonaidd genedlaetholgar VMRO, a oedd yn derbyn nawdd gan yr Ustaše.[2] Olynwyd Alecsander yn Frenin Iwgoslafia gan ei fab, Pedr II, a oedd yn 11 oed.
Diwygiadau llywodraethol
golyguYn ystod teyrnasiad Alecsander cafwyd dau ddiwygiad mawr i lywodraeth leol. Yn Nghyfansoddiad Vidovdan yn 1921 sefydlwyd 33 oblast (siroedd mewn cyd-destun Cymreig) newydd yn 1922 oedd yn wahanol i'r drefn flaenorol bu yn y tiroedd. Yna, yn 1929, cafwyd newid llywodraethol fawr arall wrth greu 9 Banovina (gelwir hefyd yn Banat) newydd oedd yn fwy o ran maint ac yn anwybyddu (yn bwrpasol) ffiniau cenedlaethol mewnol y deyrnas.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Alexander of Yugoslavia" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 30 Ebrill 2022.
- ↑ (Saesneg) Alexander I (king of Yugoslavia). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Ebrill 2022.