Llywodraeth Leol Brenhiniaeth Iwgoslafia

Llywodraeth Leol Brenhiniaeth Iwgoslafia, Banovinas, Banat ac Oblasts

Gwelwyd tri datblygiad a newid yn ffiniau a cymwysedd Llywodraeth Leol Brenhiniaeth Iwgoslafia (a adnbwyd yn wreiddiol fel Brenhiniaeth y Serbiaid, Croatiaiad a Slofeniaid) yn ystod cyfnod y wladwriaeth hwnnw a fodolai rhwng y ddau ryfel byd. O ddiwedd y Rhyfel Mawr yn 1918 hyd at 1922, fe etifeddodd a pharhaodd y Frenhiniaeth â hen gyfundrefn llywodraeth leol a fodolau yn y rhanbarth cyn y Rhyfel. Yn 1922, rhannwyd y wladwriaeth fewn i 33 oblast neu sir ac yn 1929, cyflwynwyd system newydd o 9 banat (talaith, yn Serbeg a Chroateg, y gair am banat yw banovina). Cafwyd wared ar daleithiau vilayet yr Ymerodraeth Otomanaidd oedd yn bodoli yn rhannau deheuol y wladwriaeth newydd.

Rhaniadau cyn-Iwgoslafia a etifeddwyd (1918–1922) golygu

 
Taleithiau'r Frenhiniaeth yn 1920-1922.
 
Parhaodd siroedd Awstria-Hwngari a arferai berthyn i Frenhiniaeth Croatia-Slavonia nes 1922

Rhwng 1918 a 1922, parhwyd i rannu a llywodraethu Brenhiniaeth y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid ar hyd ffiniau siroedd cyn y Rhyfel Mawr fel a gafwyd o dan reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari, y gwledydd annibynnol Brenhiniaeth Serbia a Brenhiniaeth Montenegro. Rhoir enw'r hen wlad neu ymerodraeth a reolai'r ardal cyn y Rhyfel Mawr mewn cromfachau.

  1. Dosbarth Andrijevica (Montenegro)
  2. Dosbarth Banja Luka (Awstria-Hwngari)
  3. Dosbarth Bar, Montenegro (Montenegro)
  4. Dosbarth Belgrâd (Serbia)
  5. Dosbarth Berane (Montenegro)
  6. Dosbarth Bihać (Awstria-Hwngari)
  7. Dosbarth Bijelo Polje (Montenegro)
  8. Sir Bjelovar (Sir Bjelovar-Križevci yn cyn Austria-Hungary)
  9. Dosbarth Bitola (Serbia)
  10. Dosbarth Čačak (Serbia)
  11. Dosbarth Cetinje (Montenegro)
  12. Dosbarth Ćuprija (Dosbarth Morava; cyn Serbia)
  13. Sir Dubrovnik (Austria-Hungary)
  14. Dosbarth Gornji Milanovac (Dosbarth Rudnica; cyn Serbia)
  15. Sir Gospić (Sir Lika-Krbava, cyn Austria-Hungary)
  16. Dosbarth Kavadarci (Dosbarth Tikveš; cyn Serbia)
  17. Dosbarth Kolašin (Montenegro)
  18. Dosbarth Kosovska Mitrovica (Dosbarth Zvečan; cyn Serbia)
  19. Sir Kotor (Awstria-Hwngari)
  20. Dosbarth Kragujevac (Serbia)
  21. Dosbarth Kruševac (Serbia)
  22. Dosbarth Kumanovo (Serbia)
  23. Sir Ljubljana (Awstria-Hwngari)
  24. Sir Maribor (Awstria-Hwngari)
  25. Dosbarth Mostar (Awstria-Hwngari)
  26. Dosbarth Negotin (Dosbarth Krajina; cyn Serbia)
  27. Dosbarth Nikšić (Montenegro)
  28. Dosbarth Niš (Serbia)
  29. Dosbarth Novi Pazar (Dosbarth Raška; Serbia)
  30. Dosbarth Novi Sad (Awstria-Hwngari)
  31. Sir Ogulin ([[Sir Modruš-Rijeka, Awstria-Hwngari)
  32. Dosbarth Ohrid (Serbia)
  33. Sir Osijek (Awstria-Hwngari)
  34. Dosbarth Peć (Dosbarth Metohija, Montenegro)
  35. Dosbarth Pirot (Serbia)
  36. Dosbarth Pljevlja (Montenegro)
  37. Dosbarth Podgorica (Montenegro)
  38. Dosbarth Požarevac (Serbia)
  39. Sir Požega (Awstria-Hwngari)
  40. Dosbarth Prijepolje (Serbia)
  41. Dosbarth Priština (Dosbarth Kosovo; Serbia)
  42. Dosbarth Prizren (Serbia)
  43. Dosbarth Prokuplje (Dosbarth Toplica; Serbia)
  44. Dosbarth Šabac (Dosbarth Podrinje; Serbia)
  45. Dosbarth Sarajevo (Awstria-Hwngari)
  46. Sir Šibenik (Awstria-Hwngari)
  47. Dosbarth Skopje (Serbia)
  48. Dosbarth Smederevo (Serbia)
  49. Sir Split (dinas) (Awstria-Hwngari)
  50. Dosbarth Štip (Dosbarth Bregalnica, Serbia)
  51. Dosbarth Tetovo (Serbia)
  52. Dosbarth Travnik (Awstria-Hwngari)
  53. Dosbarth Tuzla (Awstria-Hwngari)
  54. Dosbarth Užice (Serbia a Gogledd Montenegro)
  55. Dosbarth Valjevo (Serbia)
  56. Sir Varaždin (Awstria-Hwngari)
  57. Dosbarth Veliki Bečkerek (Awstria-Hwngari)
  58. Dosbarth Vranje (Serbia)
  59. Sir Vukovar (Sir Syrmia, Awstria-Hwngari)
  60. Sir Zagreb (Awstria-Hwngari)
  61. Dosbarth Zaječar (Serbia)

Oblasts (1922–1929) golygu

 
Oblasts Brenhiniaeth y Serbiaid, Croatiaid, a Slofeniaid

Sefydlodd Cyfansoddiad Vidovdan yn 1921 Frenhiniaeth y Serbiaid, Croatiaid, a Slofeniaid dal deyrnasiad Alecsander I, brenin Iwgoslafia fel gwladwriaeth unedol (unitary state ac, yn 1922, crewyd 33 oblast (sir) newydd a reolwyd o'r canol (Belgrâd). Doedd ganddynt ddim cyswllt â'r ffiniau blaenorol.

  1. Oblast Banja Luka
  2. Oblast Belgrâd
  3. Oblast Bihać
  4. Oblast Bitola
  5. Oblast Čačak (Raška Oblast)
  6. Oblast Cetinje (Zeta Oblast)
  7. Oblast Ćuprija
  8. Oblast Dubrovnik
  9. Oblast Karlovac (Primorsko-Krajina Oblast)
  10. Oblast Kragujevac (Šumadija Oblast)
  11. Oblast Kruševac
  12. Oblast Ljubljana
  13. Oblast [Maribor
  14. Oblast Mostar
  15. Oblast Niš
  16. Oblast of Novi Sad - Oblast Bačka Oblast
  17. Oblast of Osijek
  18. Oblast of Požarevac
  19. Oblast Priština (Kosovo Oblast)
  20. Oblast of Šabac (Podrinje Oblast)
  21. Oblast of Sarajevo
  22. Oblast of Skopje
  23. Oblast of Smederevo (Podunavlje Oblast)
  24. Oblast Split (dinas)
  25. Oblast Štip
  26. Oblast Travnik
  27. Oblast Tuzla
  28. Oblast of Užice (Zlatibor Oblast?)
  29. Oblast of Valjevo
  30. Oblast of Vranje
  31. Oblast of Vukovar (Syrmia Oblast)
  32. Oblast Zagreb
  33. Oblast Zaječar (Timok Oblast)

Banovina (defnyddir hefyd Banat) Iwgoslafia, 1929–1941 golygu

Nodyn:See

 
Banatiaid (banovinas) Brenhiniaeth Iwgoslafia rhwng 1929 a 1939
 
Wrth greu Banovina Croatia yn 1939, roedd y llywodraeth am ateb y Cwestiwn Croateg, hynny yw galwad nifer sylweddol o Groatiaid am gydnabyddiaeth o'i cenedligrwydd o fewn Iwgoslafia.

Yn 1929, yn ystod teyrnasiad Alecsander I cafwyd newid tiriogaethol arall wrth i'r Frenhiniaeth greu naw talaith neu banat newydd a alwyd yn Serbo-Croatieg yn banovina. Lluniwyd ei ffiniau yn bwrpasol fel na fyddai nhw'n cydfynd (ac atgyfnerthu) gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig na chwaith ffiniau imperialaidd cyn y Rhyfel Mawr. Fe'u henwyd ar ôl nodweddion daearyddol, afonydd gan fwyaf. Gwnaed peth man newidiadau i'r ffiniau yn 1931 yng Nghyfansoddiad 1931 Iwgoslafia. Dyma'r banatiaid (banovinas):

  1. Dunavska banovina, prifddinas: Novi Sad
  2. Dravska banovina, prifddinas Ljubljana
  3. Drinska banovina, prifddinas: Sarajevo
  4. Primorska banovina, prifddinas: Split
  5. Moravska banovina, prifddinas Niš
  6. Savska banovina, prifddinas: Zagreb
  7. Vardarska banovina, prifddinas: Skopje
  8. Vrbaska banovina, prifddinas: Banja Luka
  9. Zetska banovina, prifddinas: Cetinje

Roedd dinas Belgrâd, ynghyd â Zemun a Pančevo yn unedau llywodraethol oedd yn annibynnol o'r banovinas.

Banovina Croatia: 1939–1941 golygu

Er mwyn ceisio delio gyda galwadau cenedlaethol Croatiaid sefydlwyd Cytundeb Cvetković-Maček, gan greu Banovina Croatia (Banovina Hrvatska) yn 1939 drwy uno y banovinas Primoska a Savaska, gyda pheth tiriogaeth ychwanegol oddi ar Banovinas Drinavska, Dunavska, Vrbaska a Zetska. Fel Savska, Zagreb oedd y brifddinas.

Gweler hefyd golygu

Dolenni Allanol golygu