Aled Lloyd Davies
Athro a cherddor o Gymro
Cerddor, addysgwr ac arbennigwr cerdd dant o Gymro oedd Aled Lloyd Davies (26 Ionawr 1930 – 24 Ionawr 2021).[1]
Aled Lloyd Davies | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ionawr 1930 Brithdir |
Bu farw | 24 Ionawr 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, pennaeth, artist recordio |
Graddiodd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel athro ym Mhenbedw. Bu Aled yn athro Daearyddiaeth yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac yna bu'n brifathro yno am ugain mlynedd.[2]
Mae nifer o draciau gan Aled Lloyd Davies i'w clywed yma: Rhestr o ganeuon Aled Lloyd Davies.
Mae'n nodedig am y gyfrol Canrif o Gân 1881-1998 a gyhoeddwyd 13 Tachwedd, 1999 gan: Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.[3]
Bu farw ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 91 oed, gan adael ei wraig, Beryl a'i blant, Rhodri, Gwenno, Powys a Iestyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Datblygiad Cerdd Dant Ym Meirionnydd, Dinbych a'r Fflint 1881-1998 (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, 1999)
- Datblygiad Cerdd Dant Ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn, Y De-Orllewin, Cwm Tawe a'r De-Ddwyrain (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, 2000)
- Cerdd Dant (Llawlyfr Gosod) (Gwasg Gwynedd, 1983)
- Canu'r Werin yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru (1998)]] (Cymdeithas Alawon Gwerin, 1998)
- Mae'n Rhaid i Bethau Newid (Alto Publications, 2011)
- Pwyso ar y Giât (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Y cerddor a'r addysgwr Dr Aled Lloyd Davies wedi marw , BBC Cymru Fyw, 24 Ionawr 2021.
- ↑ Teyrngedau i’r cerddor, beirniad ac arbenigwr cerdd dant, Dr Aled Lloyd Davies , Golwg360, 24 Ionawr 2021.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015