Ysgol Maes Garmon

Ysgol uwchradd gyfun ddwyieithog yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint yw Ysgol Maes Garmon, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn 1961, gyda 109 o ddisgyblion a 7 o staff. Elwyn Evans oedd y prifathro cyntaf. Erbyn hyn mae tua 550 o ddisgyblion yn yr ysgol.[1] Mae'r ysgol yn rhannu cyfleusterau megis canolfan hamdden a theatr gydag Ysgol Alun gerllaw.[2]

Ysgol Maes Garmon
Arwyddair Ni lwyddir heb lafur
Sefydlwyd 1961
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mrs Bronwen Hughes
Lleoliad Stryd Conwy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1JB
Disgyblion tua 550
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan ysgolmaesgarmon.siryfflint.sch.uk

Cymraeg yw prif iaith yr ysgol ac er mai ysgol ddwyieithog yw hi, mae hi'n croesawu disgyblion sydd ddim yn medru'r Gymraeg yn ogystal, gan gynnal rhaglen drochi i ddysgu'r iaith i'r disgyblion sydd wedi mynychu'r ysgol gynradd Saesneg.[3] Dyma'r unig ysgol ddwyieithog yn Sir y Fflint.

Arwyddair yr ysgol yw: Ni lwyddir heb lafur.

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol golygu

Mae talgylch yr ysgol yn ymestyn o Ddyffryn Clwyd hyd Lannau Dyfrdwy.

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyn-athrawon o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Prosbectws Ysgol Maes Garmon. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
  2.  Un o'r ysgolion dwyieithog cynta yn dathlu 50 mlynedd. BBC (8 Hydref 2011).
  3.  MANTEISION ADDYSG GYMRAEG I HWYRDDYFODIAID (16 Hydref 2007).
  4. 4.0 4.1  David Powell (27 Tachwedd 2008). Bethlehem brings Rhys and Aled victory in our carol contest. North Wales Daily Post.

Dolenni allanol golygu