Brithdir, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Dolgellau, de Gwynedd, yw Brithdir ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Y Brithdir); Cyfeirnod OS: SH 76992 18828. Saif y pentref ar y llethrau uwch lan ddeheuol Afon Wnion. Mae plwyf Brithdir yn ymestyn i'r bryniau i gyfeiriad Bwlch Oerddrws. Ceir cyfeiriad at y pentref yn y gân werin Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn.

Brithdir
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.753°N 3.824°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH769188 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Brithdir.

Bu'r Brithdir yn rhan o blwyf hynafol Dolgellau

Mae'r pentref yn rhan o gymuned Brithdir a Llanfachreth.

Caer Rufeinig Brithdir

golygu

Ceir olion caer Rufeinig fechan ger y pentref (cyfeirnod OS: ME 772 189). Mae'n gaer fechan ond mewn safle strategol bwysig ar gyffordd y ffordd Rufeinig o Gaer Gai a Chaer o'r dwyrain â Sarn Helen sy'n ei chysylltu â Tomen y Mur i'r gogledd a chaer Pennal i'r de. Y cwbl sydd i'w gweld o'r gaer heddiw yw llwyfan ddyrchafedig tua 50m², ac sydd wedi dioddef cryn dipyn trwy waith amaeth dros y blynyddoedd.

 
Capel yr Annibynwyr, Brithdir


Eglwys Sant Marc

golygu

Saif Eglwys Sant Marc ger yr ysgol gynradd, ychydig i gyfeiriad Cadair Idris o ganol y pentref. Fe'i chofrestrwyd yn adeilad Gradd 1 oherwydd ei phwysigrwydd cenedlaethol o ran ei phensaerniaeth sydd yn null y Mudiad Celf a Chrefft. Erbyn hyn mae'r holl goed o'i chwmpas yn golygu nad yw'r rhan fwyaf ohoni i'w gweld o'r ffordd fawr, dim ond dwy gat a'i tho, gan ei bod bellach wedi'i chau.[1] Dywedir fod yr eglwys yn edrych fel pe tae wedi llithro i fyny o'r ddaear, yn hytrach nag fod wedi'i hadeiladu arni.

Cyn yr 1890au enw'r plwyf yma oedd 'Brithdir ac Islaw'r dref'. Adeiladwyd yr eglwys pan rannwyd y plwyf yn ddwy, a hynny yn 1894. Enw'r hen eglwys, sydd bellach wedi'i dynnu i lawr oedd 'Sant Paul'. Cynlluniwyd yr eglwys gan Henry Wilson a chymorth H. L. North, Arthur Grove a C. H. B. Quennell, rhwng 1895 a 1898 er cof am y Parch. Charles Tooth, a sefydlodd yr eglwys Anglicanaidd yn Fflorens (m. 1894). Fe'i cadwyd dros y blynyddoedd fwy neu lai fel yr oedd pan gafodd ei hadeiladu a chaiff ei hystyried yn un o esiamplau gorau o'r genre yma (dull y Mudiad Celf a Chrefft).

Pobl o'r Brithdir

golygu
  • Bethan Gwanas - magwyd yr awdures gyfoes ar fferm Y Gwanas ym mhlwyf Y Brithdir.
  • Syr Richard Richards, Prif Farwn y Trysorlys a Richard Richards AS Meirion, ei fab perchenogion Ystâd Caerynwch, Y Brithdir[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gefan Coflein;[dolen farw] adalwyd 24 Awst 2015
  2. "RICHARDS (TEULU), Coed, a HUMPHREYS (TEULU), Caerynwch, ger Dolgellau, Sir Feirionnydd. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-12-04.