Aled a'r Fedal Aur
Cyfrol gan Aled Sion Davies a Lynn Davies yw Aled a'r Fedal Aur a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Aled Sion Davies, Lynn Davies |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781847718389 |
Genre | Cofiannau Cymraeg |
Cyfres | Stori Sydyn |
Mae'n gyfrol yn y gyfres Stori Sydyn. Stori'r Pencampwr Paralympaidd, Aled Sion Davies yw hi. Enillodd fedal aur am daflu'r ddisgen a medal efydd am daflu'r siot yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Yn 21 mlwydd oed roedd yn un o'r athletwyr ieuengaf yn nhîm Prydain ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus.
Rhan o adolygiad Trefor Jones
golyguMae'n sôn am ei uchelgais ac am siom fawr 2013. Esbonia'r dosbarthiadau gwahanol, y dylanwad mae nawdd yn ei gael ar berfformiadau a swyddogaeth y pwyllgor sy'n rheoli holl gampau'r athletwyr anabl.
Disgrifia Aled yr amheuon a'r anawsterau wrth i gyffuriau a'r camddefnydd ohonynt amharu ar degwch y cystadlu. Cyfeiria'n benodol at ei brofiad yn Seland Newydd pan gafodd enillydd y fedal aur ei ddiarddel. Pwysleisia'r rheidrwydd i fod yn ofalus ac yn gyfrifol wrth ystyried cymryd meddyginiaeth o unrhyw fath. Mae'r stori hefyd yn ein tywys i wledydd ar hyd a lled y byd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.