Alena Wagnerová
Awdures a newyddiadurwraig Tsiec yw Alena Wagnerová (ganwyd 18 Mai 1936) sy'n sgwennu mewn Almaeneg a mewn Tsieceg.[1]
Alena Wagnerová | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1936 Brno |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, rhyddieithwr, dramodydd |
Gwobr/au | Gwobr Pelikán |
Fe'i ganed yn Brno, ail ddinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec, ar 18 Mai 1936.[2][3][4][5]
Coleg a gwaith
golyguWedi gadael ei hysgol leol, astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Masaryk. Aeth Wagnerová ymlaen i astudio addysgu, theatr, Almaeneg a llenyddiaeth gymharol. Dysgodd yn y Dům pionýrů yn Brno, ac fe'i penodwyd yn bennaeth labordy'r Gyfadran Filfeddygol yn y Brifysgol Amaethyddol cyn newid ei gyrfan'n llwyr gan ddod yn ddramodydd yn y Divadlo Julia Fučíka. Rhwng 1968 a 1969, bu'n olygydd Studentké listy. Aeth i'r Almaen yn 1969 lle priododd. Felly gweithiodd Wagnerová ar brosiect Paměť žen (Atgofion i Ferched) ym Mhrâg.[1] [6][7][8]
Mae wedi ysgrifennu am awduron Almaeneg o Prâg, e.e. Franz Kafka a Milena Jesenská, a ffigurau diwylliannol Bohemia, pobl fel Sidonie Nádherná o Borutín. Yn ei ffuglen a'i hysgrifennu ffeithiol, mae'n archwilio materion fel statws menywod a chysylltiadau Tsiec-Almaeneg.[1]
- Milena Jesenská, bywgraffiad (1996), Tsieceg
- Die Familie Kafka aus Prag, bywgraffiad (1997), Almaeneg
- Milena Jesenská: Biographie, bywgraffiad (1997), Almaeneg
- Das Leben der Sidonie Nádherný, bywgraffiad (2003), Almaeneg
- Helden der Hoffnung : die anderen Deutschen aus den Sudeten, 1935-1989, hanes (2008), Almaeneg[9]
- Sidonie Nádherná, bywgraffiad (2013), Tsieceg
- Bol lásky prodejné (2013), Tsieceg
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Pelikán .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Alena Wagnerová". Czech literature portal.[dolen farw]
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
- ↑ Alma mater: https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
- ↑ Man gwaith: https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
- ↑ Galwedigaeth: https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024. https://aleph.vkol.cz/F/?func=find-c&ccl_term=sys=000001057&local_base=svk04. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2024.
- ↑ Mastrogregori, Massimo (2012). 2008. International Bibliography of Historical Sciences. t. 158. ISBN 3110276097.