Brno
Dinas yn ne-ddwyrain Tsiecia yw Brno (Almaeneg: Brünn). Hon ydy dinas ail fwyaf y wlad, ar ôl y brifddinas Prag, a phrif ganolfan wleidyddol a diwylliannol rhanbarth Morafia. Saif ar odreon dwyreiniol Ucheldiroedd Bohemia-Morafia, ger cydlifiad afonydd Svratka a Svitava. I'r gogledd lleolir Carst Morafia, rhanbarth sy'n nodedig am ei ogofâu, grotos, a cheunentydd.
Math | municipality with town privileges in the Czech Republic, statutory city in Czechia, Czech municipality with expanded powers, municipality of the Czech Republic, capital of region, district town, municipality with authorized municipal office, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 400,566 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Markéta Vaňková |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Kharkiv |
Daearyddiaeth | |
Sir | Brno-City District, Brno-City District |
Gwlad | Tsiecia |
Arwynebedd | 230.182739 km² |
Uwch y môr | 237 metr |
Gerllaw | Svratka, Svitava |
Yn ffinio gyda | Popovice, Popůvky, Mokrá-Horákov, Moravany, Šlapanice, Vranov, Otmarov, Troubsko, Rebešovice, Rozdrojovice, Veverská Bítýška, Sokolnice, Jinačovice, Bílovice nad Svitavou, Česká, Veverské Knínice, Modřice, Lelekovice, Chudčice, Ostrovačice, Ostopovice, Moravské Knínice, Ochoz u Brna, Podolí, Kanice, Kobylnice, Hvozdec |
Cyfesurynnau | 49.1953°N 16.6083°E |
Cod post | 602 00–664 81 |
Pennaeth y Llywodraeth | Markéta Vaňková |
Hanes
golyguMae olion archaeolegol o amgylch y ddinas yn profi presenoldeb dynol yn yr ardal ers cynhanes. Cafwyd hyd i esgyrn Neanderthal yn ogof Švédův Stůl, a gwersyll y bobl Gro-Magnon, helwyr mamothiaid o 30,000 CC, yn Dolní Věstonice ar gyrion Ucheldiroedd Mikulov, oddeutu 30 km (20 milltir) i'r de. Cyfaneddwyd yr ardal gan y Celtiaid, ac yna'r Slafiaid yn y 5g a'r 6g.[1] Mae'n bosib bod "Brno" yn tarddu o'r enw ar "fryn-dref" yn iaith Celteg y Cyfandir, ac felly'n deillio o'r un bôn â'r gair Cymraeg "bryn".
Daeth tiroedd Bohemia a Morafia dan reolaeth Dugiaid Bohemia o'r 9g ymlaen, ac felly'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Saif dinas bresennol Brno rhwng dau fryn, a chodwyd Castell Špilberk ar un o'r bryniau gan dywysog o Dŷ Přemysl yn y 11g. Cyfunwyd is-dywysogaethau Brno, Olomouc a Znojmo ym 1182 i ffurfio Ardalyddiaeth Morafia, un o diroedd coronog Bohemia, a dyrchafwyd y ddugiaeth yn Deyrnas Bohemia ym 1198. Gwahoddwyd gwladychwyr Almaenig i'r ardal yn y 13g, yn ystod teyrnasiadau Otakar I a Václav I, a chafodd Brno (neu Brünn yn Almaeneg) ei hymgorffori'n ddinas ym 1243. Derbyniodd siarter frenhinol i'w chydnabod yn ddinas rydd gyda llywodraeth ei hun, dan brotectoriaeth Brenin Bohemia.[2]
Ymochrodd Brno â'r garfan Gatholig yn ystod Rhyfeloedd yr Husiaid (1419–34), a byddai Castell Špilberk yn gwrthsefyll gwarchae gan yr Husiaid ym 1428. Ym 1645, yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, llwyddodd y castell i wrthsefyll gwarchae arall a godwyd gan arno gan luoedd Teyrnas Sweden. Meddiannwyd Brno gan luoedd Napoleon I ym 1805, ac 11 km (7 milltir) i dde-ddwyrain y ddinas bu'r Ffrancod yn drech na byddinoedd Awstria a Rwsia ym Mrwydr Austerlitz. Dan reolaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, cafodd y castell ei droi'n garchar gwleidyddol ac ysbyty milwrol.
Parhaodd Brno yn ddinas ddwyieithiog gyda mwyafrif Almaenig ethnig hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Y brif dafodiaith yn ystod hanner cyntaf yr 20g oedd Brünnerisch, ffurf ar Almaeneg gyda nifer o fenthyceiriau ac elfennau eraill o Tsieceg. Wedi i'r Fyddin Goch feddiannu'r ddinas ym 1945, gyrrwyd y trigolion Almaenig yn alltud, a bu farw nifer ohonynt ar y daith i'r ffin ag Awstria. Yn sgil ailsefydlu Tsiecoslofacia, gorfodwyd i filoedd rhagor o Almaenwyr adael Brno gan lywodraeth Edvard Beneš. Bellach, mae mwyafrif helaeth o boblogaeth Brno yn Tsieciaid neu Forafiaid ethnig.
Enwogion
golyguYmhlith yr enwogion a hanai o Brno mae'r cyfansoddwr Leoš Janáček (1854–1928) a'r llenor Milan Kundera (1929–2023). Hefyd:
- Bohumil Hrabal (1914–1997), llenor
- Alena Wagnerová (g. 1936), awdures a newyddiadurwraig
- Jana Novotná (1968–2017), pencampwr tenis[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Brno. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Ionawr 2024.
- ↑ Rick Fawn a Jiří Hochman, Historical Dictionary of the Czech State, ail argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2010), tt. 22–23.
- ↑ "Jana Novotná obituary". The Guardian (yn Saesneg). 21 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2017.