Bardd Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Alfred Austin (30 Mai 18352 Mehefin 1913).

Alfred Austin
Ganwyd30 Mai 1835 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mehefin 1913 Edit this on Wikidata
Ashford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1896, yn dilyn marwolaeth Alfred, Arglwydd Tennyson. Fe'i dilynwyd gan Robert Bridges ar ôl ei farwolaeth ei hun. Pan fu farw Tennyson ym 1892 teimlwyd nad oedd yr un o’r beirdd byw ar y pryd, ac eithrio Algernon Charles Swinburne neu William Morris, o fri digonol i lwyddo i’r swydd, ac roedd y ddau fardd olaf yn anaddas ar seiliau eraill, felly am sawl blwyddyn na enwebwyd Bardd Llawryfog newydd. Yn y pen draw, penodwyd Austin i'r swydd ar ôl i Morris ei gwrthod. Honnwyd iddo gael y swydd oherwydd ei ogwydd gwleidyddol a'i gyfeillgarwch â Phrif Weinidog Arglwydd Salisbury.[1] Fel bardd ni enillodd Austin erioed safle uchel ym marn ei gyfoedion, ac nid oes fawr o gof i'w gerddi heddiw.

Roedd Austin weithiau'n cael ei wawdio am ei benillion gwladgarol confensiynol, fel:

"Now upon English soil I soon shall stand,
Homeward from climes that fancy deems more fair;"

Cyfeiriadau golygu

  1. Edmund Kemper Broadus, The Laureateship (Rhydychen: Clarendon Press, 1921), tud. 203
Rhagflaenydd:
Alfred, Arglwydd Tennyson
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
1 Ionawr 1896 – 2 Mehefin 1913
Olynydd:
Robert Bridges
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.