Robert Bridges

ysgrifennwr, bardd (1844-1930)

Bardd o Loegr oedd Robert Seymour Bridges (23 Hydref 184421 Ebrill 1930).

Robert Bridges
Ganwyd23 Hydref 1844 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Thomas Bridges Edit this on Wikidata
MamHarriett Elizabeth Affleck Edit this on Wikidata
PriodMonica Bridges Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Daryush, Margaret Bridges, Edward Bridges Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganwyd yn Walmer, Caint. Addysgwyd yng Ngholeg Eton a Choleg Corpus Christi, Rhydychen. Aeth ymlaen i astudio meddygaeth yn Ysbyty Sant Bartholomeus, Llundain, gan fwriadu ymarfer nes iddo gyrraedd deugain oed ac yna ymddeol er mwyn llunio barddoniaeth. Roedd yn feddyg nes iddo gael ei orfodi i ymddeol ym 1882 gan glefyd yr ysgyfaint. Wedyn fe wnaeth ymroi ei hun i fywyd llenyddol.

Yn 1884 priododd Mary Monica Waterhouse, merch i'r pensaer Alfred Waterhouse, a threuliodd weddill ei oes yng nghefn gwlad Berkshire, yn gyntaf yn Yattendon, wedyn yn Boars Hill (yn agos i Rydychen), lle bu farw.

Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1913, yn dilyn marwolaeth Alfred Austin. Fe'i dilynwyd gan John Masefield ar ôl ei farwolaeth ei hun. Er gwaethaf ei fod yn Fardd Llawryfog, ni fu Bridges erioed yn fardd adnabyddus iawn nes iddo gyflawni peth poblogrwydd ychydig cyn ei farwolaeth gyda The Testament of Beauty (1929).

Tra'n fyfyriwr yn Rhydychen, daeth yn gyfaill i'r bardd Gerard Manley Hopkins (1844–1889). Gellir priodoli enwogrwydd Hopkins i raddau helaeth i ymdrechion Bridges i drefnu cyhoeddi argraffiad cyflawn ei farddoniaeth (1918).

Roedd yn dad i'r bardd Elizabeth Daryush (1887–1977).

Llyfryddiaeth

golygu

Barddoniaeth

golygu
  • The Growth of Love (1876, 1889, 1898)
  • Eros and Psyche (1885, 1894)
  • Shorter Poems, cyfrolau I–IV (1890)
  • Shorter Poems, cyfrolau I–V (1894)
  • New Poems (1899)
  • Yattendon Hymnal (1899)
  • October and Other Poems (1920)
  • New Verse (1926)
  • The Testament of Beauty (1929)

Dramâu fydryddol

golygu
  • Prometheus the Firegiver (1883)
  • Nero, rhan I, rhan II (1885, 1894)
  • The Feast of Bacchus (1889)
  • Pacilio (1890)
  • The Return of Ulysses (1890)
  • The Christian Captives (1890)
  • The Humours of the Court (1893)
  • Demeter (1905)

Rhyddiaeth

golygu
  • Milton's Prosody (1893, 1901, 1921)
  • Keats (1895)
  • The Spirit of Man (1916)
  • The Necessity of Poetry (1918)
Rhagflaenydd:
Alfred Austin
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
25 Gorffennaf 1913 – 21 Ebrill 1930
Olynydd:
John Masefield
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.