Rhwng 1830 a 1962 cafodd Algeria ei reoli gan Ymerodraeth Ffrainc fel Algeria Ffrengig (Ffrangeg: Algérie française). Rhwng 1848 a 1962, gweinyddwyd ardal Ganolforol Algeria fel rhan annatod o Ffrainc. Ni chafodd y mwyafrif o anialwch y wlad ei ystyried yn rhan o Ffrainc. Ymfudodd cannoedd o filoedd o Ewropeaid i Algeria, a daethant yn gymuned y pieds-noirs. Bu mwyafrif y boblogaeth wastad yn Fwslimiaid, a chawsant llai o hawliau na'r setlwyr gwynion. Rhwng 1954 a 1962, ymladdwyd Rhyfel Algeria, a arweiniodd at annibyniaeth Algeria ar Ffrainc yn sgîl cytundebau Évian ym mis Mawrth 1962.

Algeria Ffrengig
Mathtrefedigaeth, endid a fu Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-الجزائر (المستعمرة الفرنسية).wav Edit this on Wikidata
PrifddinasAlger Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1832 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg, Arabeg, Ieithoedd Berber Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Algeria Algeria
Cyfesurynnau36.7667°N 3.05°E Edit this on Wikidata
Map
ArianAlgerian franc Edit this on Wikidata
Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.