Y Môr Canoldir

(Ailgyfeiriad oddi wrth Môr y Canoldir)

Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (weithiau Môr y Canoldir). Daw'r enw o'r Lladin mediterraneus (medius, "canol" + terra, "tir"), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw'n Mare Nostrum, sef "ein môr ni". Ceir tir bron ym mhobman o'i gwmpas: yn y gogledd mae Gorllewin a De Ewrop ac Anatolia, yn y de ceir Gogledd Affrica, ac i'r dwyrain o'r Môr Canoldir mae'r Lefant. Ei arwynebedd yw tua 2.5 miliwn km² (970,000 millt sg), sy'n cyfateb i 0.7% o arwyneb y cefnfor byd-eang.

Y Môr Canoldir
Mathmôr mewndirol, môr canoldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor y Byd Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,500,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydabasn yr Almanzora, Cordillera Penibética Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38°N 17°E Edit this on Wikidata
Y Môr Canoldir

DaearyddiaethGolygu

Mae Culfor Gibraltar, sydd ddim ond 14 km (9 milltir) o led,[1] yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn rhan o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng Asia Leiaf a Gwlad Groeg.

Mae'r Môr wedi chwarae rhan ganolog yn hanes gwareiddiad y Gorllewin. Er bod Môr y Canoldir weithiau'n cael ei ystyried yn rhan o Gefnfor yr Iwerydd, cyfeirir ato fel arfer fel corff o ddŵr ar wahân. Mae tystiolaeth ddaearegol yn dangos bod Môr y Canoldir oddeutu 5.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi ei dorri i ffwrdd o Fôr yr Iwerydd gan ffurfio llyn, yn rhannol neu'n llwyr dros gyfnod o ryw 600,000 o flynyddoedd yn ystod 'argyfwng halltedd Messina' cyn cael ei ail-lenwi gan lifogydd Zanclean tua 5.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae gan y Môr Canoldir ddyfnder cyfartalog o 1,500 m (4,900 tr) a'r pwynt dyfnaf a gofnodwyd yw 5,267 m (17,280 tr) yn y Calypso Deep yn y Môr Ionia. Mae'n gorwedd rhwng lledredau 30 ° a 46 ° Gogledd a hydoedd 6 ° W a 36 ° Dwyrain. Mae ei hyd gorllewin-dwyrain, o Culfor Gibraltar i Gwlff Iskenderun, ar arfordir de-ddwyreiniol Twrci, tua 4,000 cilomedr (2,500 mi).

Arwynebedd Môr y Canoldir yw tua 2,500,000 km2 (970,000 metr sgwâr), sy'n cynrychioli 0.7% o arwyneb cefnfor byd-eang, ond mae ei gysylltiad â'r Môr Iwerydd trwy Culfor Gibraltar yn ddim ond 14 km (9 milltir) o led - dyma'r culfor cul sy'n cysylltu Cefnfor yr Iwerydd â Môr y Canoldir a yn gwahanu Sbaen yn Ewrop oddi wrth Moroco yn Affrica. Yn strategol, yn Oes y Celtiaid, roedd y rhan gul yma'n allweddol, ac yn rheoli'r mynd a'r dod. Yn 2009, cyflwynodd yr Athro John Koch, o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Aberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, de Sbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, gyda llawer o'r geiriau i'w cael mewn Cymraeg a Gwyddeleg, ac yn dyddio i gychwyn Oes yr Haearn.[2] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[3] Golyga hyn fod y ddamcaniaeth draddodiadol mai crud y Celtiaid oedd canol Ewrop (Hallstatt ayb) wedi'i chwalu, a chred llawer o haneswyr, bellach, mai yn ne Portiwgal a de Sbaen mae gwir grud yr iaith Geltaidd, ac efallai'r Celtiaid eu hunain.

Y gwledydd o amgylch Môr y Canoldir mewn trefn clocwedd yw Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg, Twrci, Syria, Libanus, Israel, yr Aifft, Libya, Tiwnisia, Algeria, a Moroco; mae Malta a Chyprus yn wledydd-ynysoedd yn y môr. Yn ogystal, mae gan Llain Gaza a Thiriogaethau Tramor Prydain yn Gibraltar ac Akrotiri a Dhekelia arfordiroedd ar y môr.

HinsawddGolygu

Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.

Map o barthau hinsawdd yn yr ardaloedd o amgylch Môr y Canoldir, yn ôl y dosbarthiad hinsawdd Köppen

Mae gan y rhan fwyaf o'i harfordir de-ddwyreiniol hinsawdd anialwch poeth, ac mae gan lawer o arfordir dwyreiniol Sbaen (Môr y Canoldir) hinsawdd lled-cras oer. Er eu bod yn brin, mae seiclonau trofannol yn ffurfio weithiau ym Môr y Canoldir, ym mis Medi-Tachwedd, fel arfer.

Tymheredd y MôrGolygu

Mean sea temperature (°C)
Ion Chwe Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tach Rhag Blwy
Málaga[4] 16 15 15 16 17 20 22 23 22 20 18 16 18.3
Barcelona[5] 13 12 13 14 17 20 23 25 23 20 17 15 17.8
Marseille[6] 13 13 13 14 16 18 21 22 21 18 16 14 16.6
Napoli[7] 15 14 14 15 18 22 25 27 25 22 19 16 19.3
Malta[8] 16 16 15 16 18 21 24 26 25 23 21 18 19.9
Fenis[9] 11 10 11 13 18 22 25 26 23 20 16 14 17.4
Athen[10] 16 15 15 16 18 21 24 24 24 21 19 18 19.3
Heraklion[11] 16 15 15 16 19 22 24 25 24 22 20 18 19.7
Antalya[12] 17 17 16 17 21 24 27 29 27 25 22 19 21.8
Limassol[13] 18 17 17 18 20 24 26 27 27 25 22 19 21.7
Mersin[14] 18 17 17 18 21 25 28 29 28 25 22 19 22.3
Tel Aviv[15] 18 17 17 18 21 24 27 28 28 26 23 20 22.3
Alexandria[16] 18 17 17 18 20 23 25 26 26 25 22 20 21.4

Newid hinsawddGolygu

Mae Môr y Canoldir yn cael ei ystyried yn fan allweddol a difrifol ar gyfer effeithiau newid hinsawdd; cynyddodd tymheredd dŵr dwfn 0.12 ° C (0.22 ° F) rhwng 1959 a 1989.[17] Yn ôl sawl amcangyfrif, fe allai Môr y Canoldir gynhesu ymhellach a gallai'r gostyngiad mewn dyodiad dros y rhanbarth arwain at fwy o anweddiad yn y pen draw, gan cynyddu halltedd y môr.[18][17][19] Oherwydd y newidiadau hyn mewn tymheredd a halltedd, gall Môr y Canoldir ddod yn fwy 'haenog' erbyn diwedd 21g, gyda chanlyniadau enbyd ar gylchrediad y dŵr a'i biocemeg.

YnysoeddGolygu

Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:

Yn y Môr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.

GwledyddGolygu

Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:

CyfeiriadauGolygu

  1. "Mediterranean Sea". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 23 Hydref 2015.
  2. Koch, John T. (2009). "A Case for Tartessian as a Celtic Language". Acta Palaeohispanica (Aberystwyth University) X (9): 339–351. ISSN 1578-5386. http://ifc.dpz.es/recursos/publicaciones/29/54/26koch.pdf. Adalwyd 2010-05-17.
  3. The Celts - Search for a Civilization gan Alice Roberts; BBC / Heron Books (2016); ISBN 78429-335-2.
  4. Weather2Travel.com. "Malaga Climate: Monthly Weather Averages – Costa del Sol".
  5. Weather2Travel.com. "Barcelona Climate: Monthly Weather Averages – Spain".
  6. Weather2Travel.com. "Marseille Climate: Monthly Weather Averages – France".
  7. Weather2Travel.com. "Naples Climate: Monthly Weather Averages – Neapolitan Riviera".
  8. Weather2Travel.com. "Valletta Climate: Monthly Weather Averages – Malta – Malta".
  9. Weather2Travel.com. "Venice Climate: Monthly Weather Averages – Venetian Riviera".
  10. Weather2Travel.com. "Athens Climate: Monthly Weather Averages – Greece – Greece".
  11. Weather2Travel.com. "Iraklion Climate: Monthly Weather Averages – Crete – Crete".
  12. Weather2Travel.com. "Antalya: Monthly Weather Averages - Antalya Coast - Turkey".
  13. Weather2Travel.com. "Limassol Climate: Monthly Weather Averages – Cyprus".
  14. Seatemperature.org. "Mercin (alternate names - Mersin, Mersina, Mersine): Monthly Weather Averages - Turkey".
  15. Weather2Travel.com. "Tel Aviv Climate: Monthly Weather Averages – Israel".
  16. Seatemperature.org. "Alexandria Climate: Monthly Weather Averages – Egypt".
  17. 17.0 17.1 Giorgi, F. (2006). Climate change hot-spots. Geophysical Research Letters, 33(8) :L08707. 15
  18. Béthoux, J. P., Gentili, B., Raunet, J., and Tailliez, D. (1990). Warming trend in the western Mediterranean deep water. Nature, 347(6294) : 660–662.
  19. Adloff, F., Somot, S., Sevault, F., Jordà, G., Aznar, R., Déqué, M., Herrmann, M., Marcos, M., Dubois, C., Padorno, E., Alvarez-Fanjul, E., and Gomis, D. (2015). Mediterranean Sea response to climate change in an ensemble of twenty first century scenarios. Climate Dynamics, 45(9–10) : 2775–2802