Alice Morgan Wright
Ffeminist Americanaidd oedd Alice Morgan Wright (10 Hydref 1881 - 8 Ebrill 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét a cherflunydd. Roedd yn un o arlunwyr cyntaf Unol Dalkeithiau America i gofleidio'r ddau arddull newydd: ciwbiaeth a dyfodoliaeth a sgwennodd am barchu anifieliaid.[1]
Alice Morgan Wright | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1881 Albany |
Bu farw | 8 Ebrill 1975 Albany |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, arlunydd |
Fe'i ganed yn Albany, Efrog Newydd ac yno hefyd y bu farw. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts aUrdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd.[2][3][4][5]
Coleg
golyguDaeth Wright o hen deulu o ardal Albany. Bu'n fyfyriwr yn Ysgol St Agnes yn Albany (Ysgol Doane Stuart, bellach).[6]
Graddiodd o Goleg Smith, a daliodd ati â'i hastudiaethau yn Ninas Efrog Newydd. Tra'n astudio yng Nghynghrair Myfyrwyr Celf Efrog Newydd, fe'i gwaharddwyd rhag mynychu 'astudiaethau bywyd' felly gwyliodd Wright gystadlaethau bocsio a reslo lleol er mwyn astudio'r ffurf ddynol.[7][8] Ym 1909, aeth i Baris, lle mynychodd yr École des Beaux-Arts a'r Académie Colarossi. Ym Mharis roedd hi'n ddisgybl i Injalbert ac yn Efrog Newydd astudiodd gyda Gutzon Borglum, James Earle Fraser a Hermon Atkins MacNeil.[9] [10]
Y cerflunydd
golyguArddangosodd yn Sefydliad Celf Chicago a Sefydliad Celf Philadelphia, ac ymddangosodd ei gwaith yn Ewrop yn Academi Frenhinol y Celfyddydau (Llundain) a'r Salon des Beaux Arts (Paris). [6] Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Peintwyr a Cherflunwyr Benywaidd yn ogystal â bod yn aelod a chyd-sefydlydd, a chyfarwyddwr Cymdeithas yr Artistiaid Annibynnol.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mankiller, Wilma Pearl; Mink, Gwendolyn; Navarro, Marysa; Steinem, Gloria; Smith, Barbara (October 1999). The Reader's Companion to U.S. Women's History. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 522–. ISBN 0-618-00182-4.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
- ↑ Dyddiad geni: "Alice Morgan Wright". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.
- ↑ Man geni: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.
- ↑ "Alice Morgan Wright Papers, 1873-1994". Five College Archives & Manuscript Collections. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 21 Mawrth 2015.
- ↑ Albany Institute, 55
- ↑ Charlotte Streifer Rubinstein, American Women Sculptors (1990), t. 221
- ↑ Opitz, Glenn B, Editor, Mantle Fielding's Dictionary of American Painters, Sculptors & Engravers, Apollo Book, Poughkeepsie NY, 1986 t. 1060
- ↑ Alma mater: https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975. https://reidhall.globalcenters.columbia.edu/content/alice-morgan-wright-1881-1975.