Ystyrir Ciwbiaeth (Saesneg: Cubism, Ffrangeg: Cubisme) fel y mudiad celfyddydol mwyaf dylanwadol yn yr 20g.

Ciwbiaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, arddull pensaernïol, mudiad mewn paentio, arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Rhan omoderniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1907 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganProto-Cubism Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Juan Gris, Bywyd llonydd gyda Bowlen o Ffrwythau a Mandolin, 1919
Juan Gris, Portread Pablo Picasso, 1912

Bu'n gyfrifol am newid chwyldroadol yn y byd peintio a cherfluniaeth ac ysbrydolodd cerddoriaeth, llenyddiaeth a phensaernïaeth.[1][2]

Hanes golygu

Ffurfiwyd Ciwbiaeth ar ddechrau'r 20g ym Mharis. Ymhlith yr arloeswyr cynnar oedd Georges Braque a Pablo Picasso, gyda Jean Metzinger, Albert Gleizes, Robert Delaunay, Henri Le Fauconnier, Fernand Léger a Juan Gris.[3]

Yng ngwaith diweddaraf Paul Cézanne, a arddangoswyd ym Mharis rhwng 1905 a 1907, ceisiodd gyfleu ffurfiau mewn tri-dimensiwn. Datblygwyd syniadaeth Cézanne gan y Ciwbwyr cynnar a oedd am edrych o'r newydd ar un o broblemau peintiwr trwy hanes - sut gorau i gyfleu'r byd go iawn sydd a sawl-dimensiwn ar gynfas fflat, un-dimensiwn?[4]

Mewn celf Giwbaidd mae elfennau'n cael eu dadansoddi, eu torri ar wahân ac yn ail ffurfio'n haniaethol. Yn lle portreadu'r elfennau o un safbwynt yn uing, roedd y Ciwbwyr yn eu dangos o sawl safbwynt er mwyn eu cyfleu'n eu cyfanrwydd.[5]

Effaith rhyngwladol golygu

Roedd effaith Ciwbiaeth yn bellgyrhaeddol, gan ledu ar draws y byd a datblygu ymhellach wrth i'w dylanwad ymledu ac ehangu.[6]

Mae gwaith cynnar y Dyfodoliaeth (Futurism) hefyd yn ceisio cyfuno mwy nag un safbwynt – yn yr achos yma gwahanol safbwyntiau amseroedd wrth iddynt bortreadu cyflymdra'r symudiad.[7]

Oriel golygu

Rhestr o Giwbwyr golygu

    • Muhanna Al-Dura
    • Nathan Altman
    • Guillaume Apollinaire
    • Alexander Archipenko
    • Vladimir Baranov-Rossine
    • Julio Barragán
    • Georges Braque
    • Patrick Henry Bruce
    • Frank Burty Haviland
    • Josef Čapek
    • Jorge Castillo (artist)
    • William Crozier
    • Joseph Csaky
    • Danseuse (Csaky)
    • Andrew Dasburg
    • Sonia Delaunay
    • Julio de Diego
    • Raymond Duchamp-Villon
    • André Fau
    • Emil Filla
    • Jesus Fuertes
    • Leo Gestel
    • Albert Gleizes
    • Julio González (cerflunydd)
    • Juan Gris
    • Otto Gutfreund
    • Werner Gutzeit
    • Auguste Herbin
    • Fannie Hillsmith
    • Bror Hjorth
    • Carl Holty
    • Vilmos Huszár
    • Eugene Ivanov (artist)
    • Marcel Janco
    • Greta Knutson
    • Boris Korolev
    • Roger de La Fresnaye
    • Jean Lambert-Rucki
    • Marie Laurencin
    • Henri Laurens
    • Blanche Lazzell
    • Henri Le Fauconnier
    • Fernand Léger
    • André Lhote
    • Jacques Lipchitz
    • André Mare
    • Jan Matulka
    • Vadym Meller
    • Jean Metzinger
    • Gustave Miklos
    • Milo Milunović
    • Berge Missakian
    • George L.K. Morris
    • Alexandra Nechita
    • Amédée Ozenfant
    • Emilio Pettoruti
    • Pablo Picasso
    • John Joseph Wardell Power
    • Othello Radou
    • Jeanne Rij-Rousseau
    • Clément Serveau
    • Boris Smirnoff
    • Ion Theodorescu-Sion
    • Herman Trunk
    • Nadezhda Udaltsova
    • Georges Valmier
    • Jacques Villon
    • Marie Vorobieff
    • Max Weber (artist)

Cyfeiriadau golygu