Alice Walker

actores a aned yn Eatonton yn 1944

Awdures Americanaidd yw Alice Walker (ganwyd 9 Chwefror 1944) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, awdur ysgrifau academydd ac ymgyrchydd hawliau sifil.

Alice Walker
LlaisAlice walker bbc radio4 desert island discs 19 05 2013.flac Edit this on Wikidata
GanwydAlice Malsenior Walker Edit this on Wikidata
9 Chwefror 1944 Edit this on Wikidata
Eatonton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Sarah Lawrence
  • Coleg Spelman
  • Coleg Russell Sage Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd, ymgyrchydd hawliau sifil, addysgwr, awdur storiau byrion, awdur plant, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd ffilm, ymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Wellesley Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Color Purple, The Third Life of Grange Copeland, Meridian, The Temple of My Familiar, Possessing the Secret of Joy Edit this on Wikidata
PriodMelvyn R. Leventhal Edit this on Wikidata
PartnerRobert L. Allen Edit this on Wikidata
PlantRebecca Walker Edit this on Wikidata
PerthnasauReggie Watts Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Llyfrau Lillian Smith, Gwobr Llyfrau Lillian Smith, dyneiddiwr, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr Candace, Neuadd Enwogion California, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Gwobr Ariannol Lennon Ono, Gwobr O. Henry, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alicewalkersgarden.com/ Edit this on Wikidata

Ysgrifennodd y nofel The Color Purple (1982), ac enillodd Wobr y Llyfr Cenedlaethol am ffuglen caled, a Gwobr Ffuglen Pulitzer. Ysgrifennodd hefyd y nofelau Meridian (1976) a The Third Life of Grange Copeland (1970), ymhlith gweithiau eraill. Roedd Walker yn ffeminist o'i chorun i'w sowdl, a hi yn anad neb arall a fathodd y gair "womanist" i olygu, yn ei geiriau hi, "A black feminist or feminist of color".[1]

Magwraeth a choleg

golygu

Cafodd Alice Malsenior Tallulah-Kate Walker ei geni yn Eatonton, Georgia ar 9 Chwefror 1944 i Willie Lee Walker a Minnie Tallulah Grant.[2][3] Gweithiodd y ddau ar y tir, a gweithiai ei mam hefyd fel gwniadwraig, i ennill ychyig rhagor o arian. Cofrestrwyd Walker, yr ieuengaf o wyth o blant, yn yr ysgol am y tro cyntaf pan oedd hi ond yn bedair oed yn East Putnam Consolidated. Pan oedd yn 8 oed, saethwyd hi yn ei llygaid gan ei brawf, mewn damwain, a bu'r llygad hwnnw'n ddall am weddill ei hoes.

Llenyddiaeth

golygu

Yn 1976, cyhoeddwyd ail nofel Walker, Meridian. Mae Meridian yn nofel am ymgyrchwyr yn y De, yn ystod y mudiad hawliau sifil, gyda digwyddiadau sy'n cyd-fynd yn agos â rhai o brofiadau Walker ei hun. Ym 1982, cyhoeddodd yr hyn a ystyrir, bellach, fel ei gwaith mwyaf adnabyddus, The Colour Purple. Mae'r nofel yn dilyn menyw ddu, ifanc gythryblus yn ymladd ei ffordd drwy nid yn unig ddiwylliant gwyn hiliol ond diwylliant du patriarchaidd hefyd. Daeth y llyfr yn 'werthwr gorau' ac yna cafodd ei addasu i fod yn ffilm yn 1985, ffilm a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg, gyda Oprah Winfrey a Whoopi Goldberg, yn ogystal ag asiad ar ffurf sioe gerdd (2005) yn Broadway, gyda 910 o berfformiadau.

Hi hefyd a sgwennodd: The Temple of My Familiar a Possessing the Secret of Joy.

Yn 2013, cyhoeddodd Alice Walker ddau lyfr newydd, un ohonynt o'r enw The Cushion in the Road: Meditation and Wandering as the Whole World Awakens to Being in Harm's Way. Y llall oedd llyfr o gerddi o'r enw The World Will Follow Joy Turning Madness into Flowers (New Poems).

Ygyrchydd

golygu

Cyfarfu Walker â Martin Luther King pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Spelman ar ddechrau'r 1960au. Mae hi'n cydnabod i King ddylanwadu ar ei phenderfyniad i ddychwelyd i Dde America fel ymgyrchydd yn y Mudiad Hawliau Sifil. Cymerodd ran yn 1963 mewn 'Gorymdaith ar Washington'. Yn ddiweddarach, gwirfoddolodd i gofrestru pleidleiswyr du yn Georgia a Mississippi.[4][5]

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2003, ar drothwy Rhyfel Irac, arestiwyd Walker gyda 26 arall, gan gynnwys cyd-awduron Maxine Hong Kingston a Terry Tempest Williams, mewn protest y tu allan i'r Tŷ Gwyn, am groesi llinell heddlu yn ystod rali yn erbyn y rhyfel. Ysgrifennodd Walker am y profiad yn ei thraethawd "Ni yw'r Rhai y Buom yn Aros Amdanynt".[6]

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Alpha Kappa Alpha am rai blynyddoedd. [7][8]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1977), Gwobr Llyfrau Lillian Smith (1973), Gwobr Llyfrau Lillian Smith (1984), dyneiddiwr (1997), Gwobr Pulitzer am Ffuglen (1983), Gwobr Candace (1982), Neuadd Enwogion California (2006), Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg (2016), Gwobr Ariannol Lennon Ono (2010), Gwobr O. Henry (1986), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (1995), Gwobr Cenedlaethol y Llyfr (1983)[9][10][11][12][13][14][15] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. "Document". gseweb.gse.buffalo.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-08. Cyrchwyd 2018-03-26.
  2. Bates, Gerri (2005). Alice Walker: A Critical Companion. Greenwood Press. OCLC 62321382.
  3. Moore, Geneva Cobb, and Andrew Billingsley. Maternal Metaphors of Power in African American Women's Literature: From Phillis Wheatley to Toni Morrison. University of South Carolina Press, 2017, OCLC 974947406.
  4. Walker Interview transcript and audio file on "Inner Light in A time of darkness", Democracy Now! Retrieved 10 Chwefror 2010.
  5. "Pulitzer-Winning Writer Alice Walker & Civil Rights Leader Bob Moses Reflect on an Obama Presidency", Democracy Now! video on the African-American vote, 20 Ionawr 2009. Retrieved 10 Chwefror 2010.
  6. "Global Women Launch Campaign to End Iraq War" (Press release). CodePink: Women for Peace. 5 Ionawr 2006. Archifwyd o y gwreiddiol ar 9 Ebrill 2010. https://web.archive.org/web/20100409122421/http://www.codepinkalert.org/article.php?id=707. Adalwyd 12 Chwefror 2010.
  7. Galwedigaeth: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. Discogs. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. http://mak.bn.org.pl/cgi-bin/KHW/makwww.exe?BM=01&IM=04&NU=01&WI=A16316113. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 6 Medi 2018.
  8. Anrhydeddau: "John Simon Guggenheim Foundation | Alice Walker". dyddiad cyrchiad: 3 Hydref 2015. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://www.libs.uga.edu/hargrett/lilliansmith/lsawardwinners.html. dyddiad cyrchiad: 3 Hydref 2015. http://www.libs.uga.edu/hargrett/lilliansmith/lsawardwinners.html. dyddiad cyrchiad: 3 Hydref 2015. SoundCloud. https://www.pulitzer.org/winners/alice-walker. https://www.chipublib.org/chicago-public-library-foundation-awards/. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2. https://www.nationalbook.org/books/the-color-purple/.
  9. "John Simon Guggenheim Foundation | Alice Walker". dyddiad cyrchiad: 3 Hydref 2015. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg.
  10. http://www.libs.uga.edu/hargrett/lilliansmith/lsawardwinners.html. dyddiad cyrchiad: 3 Hydref 2015.
  11. SoundCloud.
  12. https://www.pulitzer.org/winners/alice-walker.
  13. https://www.chipublib.org/chicago-public-library-foundation-awards/.
  14. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2.
  15. https://www.nationalbook.org/books/the-color-purple/.