Y Tŷ Gwyn
Cartref swyddogol a phrif weithle Arlywydd yr Unol Daleithiau yw'r Tŷ Gwyn (Saesneg: The White House). Lleolir y Tŷ Gwyn yn 1600 Pennsylvania Avenue NW, Washington, DC, ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Gwyddelig James Hoban.[1] Mae e wedi bod yn gartref i bob Arlywydd yr Unol Daleithiau heblaw arlywyddiaeth John Adams.
| |
Math |
plasty, adeilad dinesig, preswylfa swyddogol, atyniad twristaidd, mudiad, asiantaeth lywodraethol ![]() |
---|---|
| |
Agoriad swyddogol |
1 Tachwedd 1800 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Cyfadeilad y Tŷ Gwyn ![]() |
Lleoliad |
Northwest ![]() |
Sir |
Washington ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
38.897669°N 77.03655°W ![]() |
Cod post |
20500 ![]() |
Rheolir gan |
National Park Service ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
pensaernïaeth neoglasurol ![]() |
Perchnogaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Statws treftadaeth |
National Historic Landmark District ![]() |
Manylion | |
Ym 1814, yn ystod Rhyfel 1812, cyneuwyd y plas gan y Fyddin Brydeinig, yn dinistrio'r tu mewn i'r Tŷ ac yn golosgi llawer o'r tu allan. Dechreuwyd ailadeiladu bron yn syth, a symudodd yr Arlywydd James Monroe i mewn i'r tŷ, roedd yn rhannol wedi'i ailadeiladu ar y pryd, ym mis Hydref 1817. Aeth adeiladu yn bellach gydag ychwanegu Portico'r De ym 1824, a Phortico'r Gogledd ym 1829. Oherwydd nid oedd dim llawer o le ar gael o fewn y plas ei hun, symudodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt bron yr holl swyddfeydd gweithio i Adain Chwith yr adeilad ym 1901. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd yr Arlywydd William Howard Taft yr Adain Chwith, a chreodd y Swyddfa Hirgrwn cyntaf.
Heddiw, mae Cyfadeilad y Tŷ Gwyn yn cynnwys Preswylfa'r Adran Weithredol, yr Adain Chwith, Ystafell y Cabinet, Ystafell Roosevelt, Adain y Dwyrain, ac Adeilad yr Hen Swyddfa'r Gweithredwr, sydd yn gartref i swyddfeydd gweithredol yr Arlywydd ac Is-Lywydd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Hanes y Tŷ Gwyn, http://www.whitehouse.gov/about/History/
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Llywodraeth UDA
- (Saesneg) Hanes y Tŷ Gwyn