Alun Llywelyn-Williams

bardd a beirniad llenyddol

Llenor a beirniad llenyddol Cymraeg oedd Alun Llywelyn-Williams (27 Awst 1913 - 9 Mai 1988).

Alun Llywelyn-Williams
Ganwyd27 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadDavid Llewelyn Williams Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Nghaerdydd yn fab i feddyg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan raddio mewn Cymraeg a hanes. Ymunodd â staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1936. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chlwyfwyd ef yn ddifrifil mewn brwydr yn yr Ardennes.

Yn 1948, daeth yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Cyhoeddiadau golygu

  • Cerddi 1934-42 (1944)
  • Pont y Caniedydd (1956)
  • Crwydro Arfon (1959)
  • Crwydro Brycheiniog
  • Y Nos, Y Niwl a'r Ynys (1960)
  • Y Llenor a'i Gymdeithas (1963)
  • Nes na'r Hanesydd? (1968)
  • Gwanwyn yn y Ddinas (1975)
  • Golau yn y Gwyll (1979)

Astudiaethau golygu

  • Gwyn Thomas, Llên y Llenor: Alun Llywelyn-Williams (Gwasg Pantycelyn, 1988)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.