Alun Talfan Davies
barnwr, cyfreithiwr (1913-2000)
Cyfreithiwr, cyhoeddwr ac awdur o Gymru oedd Syr Alun Talfan Davies (22 Gorffennaf 1913 – 11 Tachwedd 2000). Roedd yn fab i'r Parchedig William Talfan Davies, yn frawd i'r llenor Aneirin Talfan Davies ac yn dad i'r cyhoeddwr Christopher Davies.
Alun Talfan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1913 Gorseinon |
Bu farw | 11 Tachwedd 2000 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithiwr |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol, Plaid Cymru |
Plant | Christopher Humphrey Talfan Davies |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganwyd yng Ngorseinon ger Abertawe. Ym 1940 sefydlodd Llyfrau'r Dryw ar y cyd â'i frawd Aneirin. Priododd Eluned Christopher Williams ym 1942.