Alun Tudor Lewis
ysgrifennwr (1905-1986)
Awdur straeon byrion Cymraeg oedd Alun Tudor Lewis (1905–1986) a gyhoeddai dan yr enw Alun T. Lewis. Roedd yn frodor o Llandudno, Sir Conwy.[1]
Alun Tudor Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1905 |
Bu farw | 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Graddiodd mewn mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a chafodd yrfa fel athro yn y pwnc hwnnw yn Llanrwst am 30 mlynedd. Roedd yn awdur pum cyfrol o straeon byrion, yn cynnwys Blwyddyn o Garchar (1962), sy'n amlygu ei grefft "ddisgybledig a chymesur" yng nghyfrwng y stori fer.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Corlan Twsog (1948)
- Y Piser Trwm (1957)
- Blwyddyn o Garchar (1962)
- Y Dull Deg (1973)
- Cesig Eira (1979)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu