Llanrwst
Mae Llanrwst yn dref fechan ar lan ddwyreiniol Afon Conwy yn Sir Conwy, tri chwarter y ffordd i fyny Dyffryn Conwy ar lôn yr A470, yng ngogledd Cymru. Mae Caerdydd 188.8 km i ffwrdd o Lanrwst ac mae Llundain yn 308.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25 km i ffwrdd.
![]() | |
Math |
cymuned, tref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
5.24 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
53.1371°N 3.7938°W ![]() |
Cod SYG |
W04000129 ![]() |
Cod OS |
SH800615 ![]() |
Cod post |
LL26 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu'r dref â Llandudno yn y gogledd a Blaenau Ffestiniog yn y de. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân ac roedd y dref yn adnabyddus am ei brethyn. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd ac roedd galw mawr am gynnyrch gwneuthurwyr telynnau Llanrwst ledled Cymru. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth. Lleolir Gwasg Carreg Gwalch, un o gyhoeddwyr llai mwyaf llwyddiannus Cymru, yn y dref.
HanesGolygu
Codwyd Y Bont Fawr dros Afon Conwy yn 1636. Y pensaer oedd Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Yr ochr draw i'r bont mae plasdy Tu Hwnt i'r Bont.
Sŵ teithiol yn Llanrwst:
- 20 Awst 1949: ”Tori ŷd hefo pladur yn y bore ar pnawn yn cae tan wal, torri lle ir injan. Gafra a chodi geifr. Mynd i Llanrwst gyda’r nos i weld ffilm Tap Rootes. Sioe yn parc Gwydr llew a llewes. Arth ddu Himalayan, mwncïod a llygoden fawr o dociau Caerdydd 28 ins o hyd. Poeth, mwll clos.“[1]
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
Eglwys Sant GrwstGolygu
Adeiladwyd adeilad presennol Eglwys Sant Grwst, sy'n gysegredig i Sant Grwst, yn 1470, ond mae'r safle'n hŷn na hynny. Yn yr eglwys mae Capel Gwydir ac yno ceir cist arch garreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a symudwyd yno o Abaty Aberconwy. Yno hefyd mae beddrod cerfiedig sy'n coffháu Hywel Coetmor, un o gapteiniaid Owain Glyndŵr.
Y Bont FawrGolygu
Enw arall ar y bont hon ar lafar yn lleol yw 'Pont Rhegi' gan ei bod yn amhosibl i ddau gerbyd basio'i gilydd ar yr un pryd am fod y bont mor gul. Oherwydd ei bod yn bont gefngrwm, mae mynd yn ôl yn anodd os nad yn amhosib i lawer. Ceir trydydd enw hefyd sef 'Pont y Perlau' oherwydd yn ôl traddodiad cafwyd hyd i berl yn yr afon pan oeddynt yn gosod y garreg sylfaen.[2]
EnwogionGolygu
- William Salesbury - cyfieithydd y Beibl, treuliodd ei lencyndod ym Mhlas Isa.
- Syr John Wynn o Wydir
- Inigo Jones - pensaer enwog.
- John Jones (Pyll) (1786-1865) - argraffydd, cyhoeddwr a bardd (ganed yn Nhrefriw).
- Evan Jones (Ifan y Gorlan) (1787-1859) - telynor
- Kai Owen (g. 1975), actor
- Evan Owen (Allen) bardd a llenor (1805 - 1852)
- Robert Williams (Trebor Mai) - un o englynwyr gorau'r 19g, a dreuliodd ran helaeth ei oes yn y dref.
- John Lloyd Williams (1854 - 1945) - cerddor a botanegydd, a aned ym Mhlas Isa.
- Peter Thomas (1920 - 2008) - y Ceidwadwr cyntaf i weithredu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru (1970 - 1974), a aned yn y dref.
- Y Cyrff - band roc Cymraeg dylanwadol o'r 1980au.
Eisteddfod GenedlaetholGolygu
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst ym 1951 a 1989. Am wybodaeth bellach gweler:
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst eto yn 2019[3].
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Dyddiadur DO Jones, Padog, yn papur bro Yr Odyn, a Thywyddiadur Llên Natur [1]
- ↑ "Llên Natur; rhif 86; Ebrill 2015 (gyda chaniatâd)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-04-01.
- ↑ "Eisteddfod Genedlaethol". Eisteddfod Genedlaethol. Cyrchwyd 15/3/18. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
OrielGolygu
Gweler hefydGolygu
- Castell Gwydir
- Faunula Grustensis (1830)
- Ysgol Rad Llanrwst
- Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Tom Bryniog
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan