Alun Williams
Cyflwynydd radio o Gymro oedd David Alun Williams, OBE (26 Awst 1920 – 30 Mawrth 1992) [1] a ddaeth yn un o'r lleisiau mwyaf adnabyddus ar radio'r BBC pan fu'n sylwebu ar ddigwyddiadau mawr fel y Coroni yn 1953 a digwyddiadau chwaraeon gan gynnwys rygbi, nofio ac y Gemau Olympaidd.
Alun Williams | |
---|---|
Ganwyd | 26 Awst 1920 Port Talbot |
Bu farw | 30 Mawrth 1992 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, newyddiadurwr |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Williams ym Mhort Talbot, yn fab i weinidog bresbyteraidd a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llandeilo, Ysgol Ramadeg Pontypridd a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Yna, bu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, gan godi o forwr cyffredin i ddod yn swyddog cudd-wybodaeth yn gwasanaethu yn y Dwyrain Pell.
Cychwynnodd ei yrfa ddarlledu pan oedd yn fyfyriwr ac ar ôl gweithio fel cynorthwy-ydd darlledu allanol daeth yn sylwebydd i'r BBC. Cyflwynodd llawer o lwyddiannus o raglenni radio yn y 1950au gan gynnwys Welsh Rarebit a Workers' Playtime, ac aeth ymlaen i gyflwyno nifer o raglenni hir eu oes yn Gymraeg ar Radio Cymru ac yn Saesneg ar Radio Wales yn cynnwys Dewch am Dro, One Good Turn, On the Road, Monday Morning Miscellany, Alun yn Galw a Shw Mai Heno.
Roedd yn wyneb cyfarwydd ar deledu yng Nghymru ac am flynyddoedd lawer roedd yn un o gyflwynwyr Come Dancing.
Roedd yn aelod o Orsedd gyda'r ffugenw 'Crwydryn' - cyfeiriad at y teithio helaeth a wnaeth yn ystod ei yrfa, yn teithio gyda thîm rygbi Cymru a Llewod Prydain, yn cyflwyno Forces' Chance a sylwebu ar y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.
Derbyniodd yr O.B.E. am wasanaeth i ddarlledu yn 1982.
Bywyd personol
golyguYn 1944 priododd Perrie Hopkins Morris, merch yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol Rhys Hopkin Morris a'i wraig Gwladys.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BFI Entry. Adalwyd ar 3 May 2009.
- ↑ "MORRIS, Syr RHYS HOPKIN (1888-1956), gwleidydd a gweinyddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-05-25.