Rhys Hopkin Morris

gwleidydd a gweinyddwr

Roedd Syr Rhys Hopkin Morris (5 Medi 188822 Tachwedd 1956) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol rhwng 1923-32 a rhwng 1945-56

Rhys Hopkin Morris
Ganwyd5 Medi 1888 Edit this on Wikidata
Bu farw22 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PriodGwladys Perrie Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Cafodd Hopkin Morris ei eni ym Mlaencaerau, Maesteg, Morgannwg, yn fab i John Morris, gweinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghaerau, a Mary ei wraig. Bu farw ei rieni pan oedd yn 16 oed a chafodd ei fagu wedyn gan ei ewythr.

Aeth yn ddisgybl athro i Ysgol Glyncorrwg ym 1902 ac oddi yno aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor. Wedi cyfnod yno aeth i weithio fel athro yn Ysgol Ramadeg y Bargoed am ddwy flynedd.[1]

Ym 1914, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe ymrestrodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan godi i swyddogaeth is-gapten. Cafodd ei grybwyll mewn cad negeseuon ddwywaith [2] a chafodd MBE milwrol am ei wasanaeth. Fe'i clwyfwyd gan shrapnel a bu'n dioddef o'r anaf hyd ddiwedd ei oes.

Ar ôl y rhyfel aeth i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol y Brenin, Llundain a chafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1920.

Gyrfa wleidyddol golygu

Yn Rhyddfrydwr laissez - faire clasurol, roedd Hopkin Morris yn cefnogi Herbert Henry Asquith yn erbyn David Lloyd George pan rannodd y blaid rhwng 1916 ac 1923, ac fe arhosod yn ffyrnig ei wrthwynebiad i Lloyd George a Rhyddfrydiaeth drwy gydol ei yrfa wleidyddol.

Safodd Hopkin Morris yng Ngheredigion yn etholiad cyffredinol 1922 ar ran Ryddfrydwyr Asquith gan golli o drwch blewyn i'r aelod cyfredol, a chefnogwr Lloyd George, Ernest Evans. Y flwyddyn ganlynol bu aduno yn y Blaid Ryddfrydol, ond safodd Hopkin Morris fel Rhyddfrydwr Annibynnol yn erbyn Evans eto. Mewn un o ganlyniadau mwyaf nodedig etholiad cyffredinol 1923 etholwyd Hopkin Morris. Yn etholiad cyffredinol y flwyddyn ddilynol cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel ymgeisydd Rhyddfrydol swyddogol.[3]

Oherwydd ei wrthwynebiad i Lloyd George a'i wrthwynebiad i gyflwyno tariffau, arhosodd gyda'r Rhyddfrydwyr swyddogol pan fu rhannu'r blaid yn dair carfan cyn etholiad cyffredinol 1931.

Ym 1932 cafodd Hopkin ei benodi'n ynad cyflogedig yn Llundain gan ymddiswyddo o'r Senedd. Ym 1936 daeth yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf y BBC yng Nghymru. Yn yr un flwyddyn fe'i etholwyd yn Llywydd Ymddiriedolaeth Cymry Llundain, gan ddal ei afael yn y swydd tan 1937.[4]

Ymhen tair blynedd a'r ddeg dychwelodd Hopkin Morris i'r Senedd mewn amgylchiadau nodedig eto. Enillodd Caerfyrddin yn Etholiad cyffredinol 1945 ar ran y Rhyddfrydwyr gan gipio'r sedd oddi wrth Moelwyn Hughes a'r Blaid Lafur mewn etholiad lle cafodd Llafur dirlithriad yng ngweddill Prydain. Bu Hopkin Morris yn cynrychioli'r sedd am weddill ei oes.

Ym 1951 daeth yn Ddirprwy Gadeirydd Ffyrdd a Moddau yn Nhŷ'r Cyffredin ac felly'n un o'r Dirprwy Lefarwyrz.

Bu'n weithgar gyda Cylch Dewi - cylch llenyddol a diwylliannol gwladgarol a ymgyrchodd dros y Gymraeg mewn addysg, bywyd cyhoedd a darlledu yn yr iaith.

Anrhydeddau golygu

Yn ogystal â'r MBE a gafodd am ei wasanaeth milwrol fe gafodd ei urddo'n farchog ym 1954. Fe'i gwnaed yn Gwnsler y Brenin ym 1946, a chyflwynwyd gradd LLD er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1956

Bywyd personol golygu

Priododd Gwladys Perrie Williams merch William H. Williams, gorsaf-feistr, Llanrwst, ac Elizabeth ei wraig; yng nghapel Charing Cross, Llundain ar 11eg Medi 1918

Bu farw yn ei gartref yn Sidcup ar 22 Tachwedd 1956.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. MORRIS, Syr RHYS HOPKIN yn y Bywgraffiadur ar lein; adalwyd 20 Chwefror 2014
  2. MENTIONED IN DISPATCHES yn y Glamorgan Gazette 23 Mehefin 1916; adalwyd 20 Chwefror 2014
  3. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  4. Gwefan Cymry Llundain Archifwyd 2011-07-20 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Chwefror 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ernest Evans
Aelod Seneddol dros Geredigion
19231932
Olynydd:
David Owen Evans
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Goronwy Moelwyn Hughes
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
19451956
Olynydd:
Megan Lloyd George