Alwyn Rice Jones
clerigwr Cymreig yr 20fed ganrif, diwygiwr Eglwys Cymru
Roedd Alwyn Rice Jones (25 Mawrth 1934 - 12 Awst 2007) yn Esgob Llanelwy o 1982 hyd 1999 ac yn Archesgob Cymru o 1991 hyd 1999.
Alwyn Rice Jones | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1934 Capel Curig |
Bu farw | 12 Awst 2007 Llanelwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Archesgob Cymru |
Ganed ef yng Nghapel Curig ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ym Mangor yn 1958. Bu'n ficer ym Mhorthmadog ac yn Ddeon Aberhonddu, yna yn 1982 yn Esgob Llanelwy ac yn 1991 yn Archesgob Cymru. Roedd yn gryf o blaid ordeinio merched, a thra yr oedd yn archesgob, er yn ddadleuol, newidiwyd y rheolau i ganiatáu ordeinio merched. Yn ystod ei gyfnod ef hefyd y rhoddwyd caniatad swyddogol i bobl oedd wedi ysgaru ail-briodi yn yr eglwys. Roedd yn gefnogwr brwd i ddatganoli.
Rhagflaenydd: George Noakes |
Archesgob Cymru 1991 – 1999 |
Olynydd: Rowan Williams |