Gweler hefyd: Datganoli Cymru

Mae Datganoli, hunanlywodraeth neu ymreolaeth yn broses o fod llywodraeth ganolog gwladwriaeth yn rhoi grym dros rai materion i lywodraeth ar lefel cenedl, talaith neu diriogaeth arall, ac yn gwneud hynny trwy ddeddfwriaeth. Yn wahanol i ffederaliaeth, mae'r wladwriaeth ganolog yn cadw'r hawl i dynnu'r pwerau hyn yn ôl iddi ei hun os dymuna. Mewn system ffederal mae hawliau'r unedau islaw'r wladwriaeth ganolog wedi ei diogelu yn gyfansoddiadol.

Datganoli
Enghraifft o'r canlynoldatganoli Edit this on Wikidata
Mathdatganoli Edit this on Wikidata
Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, cartref Senedd Cymru.

Y Deyrnas Unedig golygu

Bu mudiadau ymreolaethol yn Iwerddon, yr Alban a Chymru yn y 19g. Roedd y mudiad yn Iwerddon yn llawer cryfach na'r lleill, gyda'r Blaid Seneddol Wyddelig dan Charles Stewart Parnell ac eraill yn ymdrechu am ymreolaeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig. Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916, newidiodd yr hinsawdd wleidyddol yn Iwerddon, a daeth arweiniad y mudiad cenedlaethol i ddwylo Sinn Féin, oedd yn ymdrechu am annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig yn hytrach nag ymreolaeth o'i mewn. Daeth y rhan fwyaf o Iwerddon yn wlad annibynnol yn 1922, ond parhaodd Gogledd Iwerddon yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig. Dilewyd y senedd yma yn 1973 ond crewyd cynulliad newydd i Ogledd Iwerddon yn 1998. Yng Nghymru, bu'r mudiad Cymru Fydd yn weithgar am gyfnod.

Gyda thŵf cenedlaetholdeb yn yr Alban a Chymru yn ail hanner yr 20g yn symbyliad, cynhaliwyd refferendwm ar ddatganoli grym i'r ddwy wlad ym mis Mawrth 1979. Cafwyd mwyafrif mawr yn erbyn datganoli yng Nghymru, tra yn yr Alban roedd mwyafrif bychan o'i blaid, ond dim digon i wneud datganoli yn weithredol. Arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn datganoli oedd: Leo Abse, Neil Kinnock, Donald Anderson, Ioan Evans ac Ifor Davies.[1]

Yn mis Medi 1997 cafwyd refferendwm arall, a'r tro hwn cafwyd pleidlais o blaid datganoli yn y ddwy wlad. Sefydlwyd Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Yn Lloegr mae gan ddinas Llundain gynulliad datganoledig, ond mewn refferendwm ar greu cynulliad i ogledd-ddwyrain Lloegr yn 2004, roedd mwyafrif mawr yn erbyn, a gohiriwyd unrhyw ystyriaeth bellach o'r mater. Mae peth galw am senedd ddatganoledig i Loegr fel uned. Yn 2001 cyflwynodd Mebyon Kernow ddeiseb gyda 50,000 o enwau yn galw am ddatganoli grym i Gernyw.

Datganoli mewn gwledydd eraill golygu

 
Palas y Generalitat, Barcelona. Y Generalitat yw llywodraeth ddatganoledig Catalonia.

Mewn rhannau eraill o Ewrop, ceir trefn ddatganoledig yn Sbaen, lle mae 17 o Gymunedau Ymreolaethol a dwy Ddinas Ymreolaethol, a hefyd yn yr Eidal. Mae'r drefn mewn gwledydd megis yr Almaen a'r Swistir yn esiamplau o ffederaliaeth yn hytrach na datganoli, ac felly hefyd wledydd megis yr Unol Daleithiau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.121.