Archesgob Cymru
Crewyd swydd Archesgob Cymru yn 1920, pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru i greu Yr Eglwys yng Nghymru. Yn wahanol i archesgobion yn nhaleithiau eraill yr Eglwys Anglicanaidd, mae'r Archesgob hefyd yn esgob un o'r esgobaethau yng Nghymru.
Yr Archesgob presennol yw'r Parchedicaf John Davies (Esgob Abertawe ac Aberhonddu), a etholwyd ym Medi 2017[1]
Archesgobion CymruGolygu
Archesgobion Cymru | |||
---|---|---|---|
Cychwyn | Gorffen | Deiliad | Nodiadau |
1920 | 1934 | Alfred George Edwards | Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1889. |
1934 | 1944 | Charles Green | Bu'n Esgob Mynwy; hefyd yn Esgob Bangor o 1928; bu farw yn y swydd. |
1944 | 1949 | David Prosser | Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1926. |
1949 | 1957 | John Morgan | Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1939; bu farw yn y swydd. |
1957 | 1967 | Edwin Morris | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1945. |
1968 | 1971 | Glyn Simon | Bu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu; hefyd yn Esgob Llandaf o 1957. |
1971 | 1982 | Gwilym Williams | Hefyd yn Esgob Bangor o 1957. |
1983 | 1986 | Derrick Childs | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1972. |
1986 | 1991 | George Noakes | Hefyd yn Esgob Tyddewi o 1981. |
1991 | 1999 | Alwyn Rice Jones | Hefyd yn Esgob Llanelwy o 1981. |
1999 | 2002 | Rowan Williams | Hefyd yn Esgob Mynwy o 1992; yn awr yn Archesgob Caergaint |
2003 | 2017 | Barry Morgan | Bu'n Esgob Bangor; hefyd yn Esgob Llandaf o 1999.[2] |
2017 | presennol | John Davies | Hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008.[3] |
Ffynonellau:[4][5] |
- ↑ "Ethol Archesgob Cymru newydd".
- ↑ Church in Wales — Archbishop of Wales to retire in January Archifwyd 2017-08-07 yn y Peiriant Wayback. (adalwyd 26 Awst 2016)
- ↑ "Esgob John Davies ydy Archesgob newydd Cymru". BBC Cymru Fyw. 6 Medi 2017. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
- ↑ "Historical successions: Archbishops of Wales". Crockford's Clerical Directory. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Previous Archbishops of Wales". Church in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-31. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2012. Unknown parameter
|iaith=
ignored (help)