Alys ferch Owain Glyndŵr
merch Owain Glyn Dŵr
Merch i Owain Glyn Dŵr a'i wraig Margaret Hanmer oedd Alys ferch Owain Glyn Dŵr (rhwng 1390–1420).
Alys ferch Owain Glyndŵr | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Tad | Owain Glyn Dŵr |
Mam | Margaret Hanmer |
Priod | John Scudamore |
Plant | Sir John 'Ieuanc' Scudamore, of Kentchurch, NN Scudamore, Elsbeth ferch John Scudamore |
Bywgraffiad
golyguNid oes llawer o wybodaeth ar gael amdani. Priododd Syr John Scudamore, siryf Swydd Henffordd, oedd a stad yn Monnington Straddell, gerllaw Kentchurch. Ymddengys fod y briodas wedi ei chadw yn gyfrinachol, oherwydd roedd y Deddfau Penyd yn 1402 yn benodol wedi datgan y byddai unrhyw Sais a briodai aelod o deulu Glyn Dŵr yn colli ei swydd. Cawsant nifer o blant, ac mae eu disgynyddion yn parhau i fyw yn yr ardal.
Mae nifer o draddodiadau yn yr ardal yn awgrymu i Owain Glyn Dŵr ei hun ddiweddu ei oes yma, yn cael ei guddio gan Alys a'i gŵr. Yn 1999, adroddwyd fod rhai o'r teulu yn haeru eu bod yn gwybod union leoliad ei fedd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Glyndwr's burial mystery 'solved'. BBC (6 Tahcwedd 2004).