Swydd Henffordd

swydd serimonïol yn Lloegr

Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ar y ffin â Chymru, yw Swydd Henffordd (Saesneg: Herefordshire). Dinas Henffordd yw ei chanolfan ac mae'n ffinio gyda Swydd Amwythig i'r gogledd, Gwent i'r de-orllewin a Phowys i'r gorllewin. Mae gan ddinas Henffordd boblogaeth o oddeutu 55,800 ond mae'r sir ei hun yn denau iawn ei phoblogaeth gyda dwysedd poblogaeth o 82/km² (212/mi sg). Mae llawer o'r sir yn dir amaethyddol a cheir canran uchel yn dir tyfu ffrwythau (afalau seidr) a gwartheg Henffordd.

Swydd Henffordd
Mathsiroedd seremonïol Lloegr, ardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Canolbarth Lloegr
PrifddinasHenffordd Edit this on Wikidata
Poblogaeth193,615 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,179.7094 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon, Swydd Gaerloyw, Powys, Gwent Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.08°N 2.75°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000019 Edit this on Wikidata
GB-HEF Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Herefordshire Council Edit this on Wikidata
Map
Arfbais Swydd Henffordd
Lleoliad Swydd Henffordd yn Lloegr

Hanes golygu

Mae Swydd Henffordd yn un o 39 swydd hanesyddol Lloegr (Ancient counties of England). Yn 1974 cafodd ei huno gyda Swydd Gaerwrangon i ffurfio sir Henffordd a Chaerwrangon. Daeth y sir i ben yn 1998.[1]

Fe glywid y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o'r sir hyd c. 1890 e.e. yn Ffwddog, Cwm-iou a Llanddewi Nant Hodni.[2]

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Ardaloedd awdurdod lleol golygu

Nid yw'r sir wedi'i rhannu'n ardaloedd awdurdod lleol; gweinyddir y sir gyfan fel awdurdod unedol, sef Swydd Henffordd (awdurdod unedol).

Etholaethau seneddol golygu

Rhennir y sir yn ddwy etholaeth seneddol yn San Steffan:

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Saesneg www.ukbmd.org.uk; Teitl: REGISTRATION DISTRICTS IN HEREFORD & WORCESTER; adalwyd 1 Awst 2014
  2. Wales and her language gan John E. Southall Amazon