Amaethon fab Dôn
(Ailgyfeiriad o Amaethon)
Yn y chwedl Culhwch ac Olwen, cymeriad a gysylltir ag amaeth yw Amaethon fab Dôn. Yn ôl ei enw, roedd yn fab i'r dduwies Dôn.
Cyfeirir ato mewn rhestr o'r annoethau (pethau anodd i'w cael) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr er mwyn ennill llaw Olwen. Mae'n rhaid i Gulhwch gael cymorth Amaethon i wneud aradr arbennig, aradu darn o dir a'i hau. Ni cheir cyfeiriad arall ato na'r dasg, ond mae'r ffaith ei fod yn y rhestr honno yn awgrymu y bu chwedl amdano yn cylchredeg yn y gorffennol.
Efallai fod cymeriad Amaethon yn cynrychioli duw amaeth Celtaidd y cadwyd y cof amdano yn fyw yn nhraddodiadau'r Cymry.
Cyfeiriadau
golygu- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 2000)